Neidio i'r prif gynnwy

Camau Nesaf a Phrif Egwyddorion y Gweithlu

Project manager showing the next steps

Camau Nesaf – Beth sy’n ofynnol

  • Trosglwyddo’r Achos Busnes Amlinellol yn Achos Busnes Rhaglen
  • Dewis safle
  • Model Gweithredu wedi’i Optimeiddio
  • Glasbrint Cynllun y Safle
  • Diffinio Gofynion Mwyaf Ffafriol y Gweithlu (Cyfwerth ag Amser Cyflawn)
  • Costau Rhedeg manwl wedi’u diweddaru
  • Effaith Carbon / Cyfleoedd Dadgarboneiddio
  • Rhwydwaith drafnidiaeth bresennol yn erbyn un newydd.

 

Prif Egwyddorion y Gweithlu

  • Proses Newid Sefydliadol (OCP) – Dilyn Proses Rheoli Newid Cymru Gyfan.
  • Parhau i ddarparu gwasanaeth golch diogel o ansawdd uchel i GIG Cymru.
  • Cydweithio trwy gydol y broses newid a hyrwyddo cyfathrebu effeithiol gyda staff.
  • Sicrhau cyflogaeth staff yr effeithir arnynt yn y GIG.
  • Lleihau’r effaith negyddol y gall y newid ei chael ar iechyd a llesiant staff  y mae'r broses newid yn effeithio'n uniongyrchol arnynt.
  • Bydd PCGC a Byrddau Iechyd yn ymchwilio ac yn cyflwyno ystod o ddatrysiadau a all gynnwys clustnodi swyddi gwag addas i staff nad ydynt yn medru trosglwyddo gyda gwasanaeth; cynnal paneli recriwtio ar y cyd, ymgyrchoedd recriwtio hygyrch, hysbysebu ar y cyd ac yn y blaen.
  • Yn ystod y cyfnod trosglwyddo, ni fydd unrhyw gynllun wrth gefn i gynnal trefniadau’r gweithle (e.e. penodiadau dros dro) a lefelau staffio yn cyfaddawdu safle tymor hir ac amddiffyn hawliau staff.
  • Bydd PCGC a Chyflogwyr Byrddau Iechyd yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am gynllunio’r gweithlu yn rhagweithiol, defnyddio a hyfforddi staff ledled y meysydd gwasanaeth yr effeithir arnynt wrth ddatblygu a rhoi modelau gwasanaeth ar waith.
  • Bydd pob sefydliad yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Sefydliadau Ochr y Staff i sicrhau trosglwyddiad llyfn i’r trefniadau newydd.
  • Bydd staff yr effeithir arnynt yn derbyn cefnogaeth yn ystod y broses newid. Byd asesiadau risg rheolaidd yn cael eu cynnal i adolygu’r effaith y mae’r broses newid yn ei chael ar staff a’r camau lliniaru a gymerir. Bydd y camau gweithredu yn cynnwys cymorth ychwanegol trwy Raglen Cymorth i Weithwyr Lleol, hyfforddiant gwytnwch personol, hyfforddiant ymwybyddiaeth feddylgar ac yn y blaen.
  • Bydd hyfforddiant ar gael i’r holl staff yr effeithir arnynt i sicrhau trosglwyddiad esmwyth i’r trefniadau newydd. Bydd cydweithwyr y rhwydwaith Dysgu Undebau Llafur yn ymwneud â datblygu pecynnau a chynlluniau hyfforddi.
  • Bydd rheolaeth o’r Gwasanaeth yn cael ei throsglwyddo i PCGC ar y cyfle cyntaf. Bydd hyn yn golygu y caiff gweithwyr eu trosglwyddo ar unwaith dan TUPE lle byddant o fewn y cwmpas Bydd hyn yn caniatáu i reoli a chynllunio parhaus y gwaith galluogi (cyfalaf) gychwyn, ochr yn ochr â rheoli neges gyson ar draws y gwasanaeth.
  • Er nad yw’r lleoliadau terfynol wedi’u nodi, mae’r model sy’n dod i’r amlwg yn seiliedig ar y rhagdybiaeth fod y gwasanaeth golch yn gweithredu o hybiau rhanbarthol.
  • Ar gyfer gweithwyr yn y 3 lleoliad sydd wedi’u clustnodi i ddarparu’r gwasanaeth yn y Gogledd, y De-ddwyrain a’r De-orllewin, byddant yn cael eu trosglwyddo dan TUPE i weithwyr ar unwaith, am eu bod yn cael eu hystyried o fewn y cwmpas. Bydd hyn yn caniatáu i unigolion ddod yn weithwyr PCGC, gan leihau pryder i’r rhai yr effeithir arnynt.
  • Ar gyfer gweithwyr yn y 2 leoliad lle na fydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y tymor hir, byddant yn parhau i gael eu cyflogi gan eu Bwrdd Iechyd cyfredol, os nad ydynt yn dymuno trosglwyddo. Byddent yn cael eu rheoli o dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth gan reolwyr PCGC. Bydd hyn yn caniatáu ystyriaeth o ddymuniadau unigolion yn y 2 leoliad, gan ystyried eu blaenoriaethau a’u cyfyngiadau daearyddol a phersonol, a bydd yn dechrau deialog ynghylch eu hoff opsiynau.
  • Bydd amser arwain rhesymol cyn datgomisiynu unedau, gan roi amser i ni weithio drwy opsiynau a blaenoriaethau gweithwyr.
  • Bydd cymorth a chefnogaeth i weithwyr trwy’r broses i sicrhau ein bod yn gofalu am eu llesiant.