Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniadau Allweddol ac Amcanion Gwella

Laptop with man showing key deliverables

Cynhyrchu Achos Busnes Amlinellol yn unol â gofynion Model Pum Achos Llywodraeth Cymru.

Ystyriwyd goblygiadau cyflawni arfer gorau wrth wneud y canlynol:

  • Darparu gweithlu medrus, cynaliadwy
  • Datblygu cyfleusterau addas i’r diben
  • Cyflawni gwasanaeth cynaliadwy a fforddiadwy
  • Darparu cefnogaeth effeithiol i wasanaethau clinigol ac anghlinigol
  • Trefniadau rheoli annibynnol yn erbyn rhai cydweithredol.

 

Amcnion Gwella

S01

Lleihau’r risgiau i gleifion, staff a sefydliadau drwy gydymffurfio â’r safonau diweddaraf ar ddihalogi llieiniau.

S02

Rhoi cymorth effeithiol i wasanaethau clinigol drwy ddarparu gwasanaethau llieiniau o’r ansawdd uchaf.

S03

Darparu gwasanaeth cytbwys ar draws GIG Cymru a hyrwyddo cysondeb rhwng safleoedd.

S04

Darparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf sy’n cynnig y gwerth gorau am arian o ran cost fesul uned.

S05

Sicrhau'r lefel briodol o alluedd er mwyn ateb y galw sy'n newid o hyd ac er mwyn lleihau'r perygl y bydd y gwasanaeth yn methu.