Neidio i'r prif gynnwy

Scan for Safety FAQs

17/02/22
Beth yw SganioErDiogelwch?

Ym mis Mehefin 2021, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru achos busnes llawn a buddsoddiad cysylltiedig fel y camau cyntaf tuag at ymgorffori egwyddorion ac arferion SganioErDiogelwch ar draws GIG Cymru.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae diogelwch cleifion wrth wraidd rhaglen SganioErDiogelwch GIG Cymru. Mae cyflwyno sganio codau bar ac awtomeiddio'r cysylltiad rhwng cynhyrchion, lleoedd a phobl a nodwyd yn rhai unigryw, yn darparu data amser real yn y man lle rhoddir gofal a’r gallu i olrhain dyfeisiau meddygol sydd wedi'u mewnblannu ar unwaith pe bai angen galw cynnyrch neu glaf yn ôl. Bydd y buddsoddiad yn y fenter Unwaith i Gymru hon hefyd yn sicrhau arbedion ariannol sylweddol, gwell rheolaeth ar stoc, bydd yn arbed y staff clinigol rhag gorfod cyflawni tasgau gweinyddol llafurus a bydd yn diogelu ein cleifion rhag niwed y gellir ei osgoi ar yr un pryd.”

Mae safonau data, cipio data cod bar a rhyngwynebau systemau yn sail i’r Rhaglen SganioErDiogelwch.  Mae’r agwedd cipio data cynnyrch yn cael ei hwyluso trwy Ddatrysiad Rheoli Stoc (Supply X), a ddarperir gan Omnicell, a lwyddodd i ennill yr ymarfer tendro a ddyfarnwyd ym mis Medi 2021 am 5 mlynedd (gydag opsiwn i’w ymestyn am 3 blynedd arall).

Fodd bynnag, mae SganioErDiogelwch yn fwy na rheoli stoc yn unig. Yn ogystal â chynhyrchion, bydd SupplyX hefyd yn gallu sganio cleifion, staff, lleoliadau, codau gweithdrefnau ac yn galluogi cipio data a chysylltu ar draws llwybrau cleifion. Wedi'i lywio gan dîm prosiect amlddisgyblaethol Cymru gyfan a ddaeth ynghyd gan yr Athro Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (DCMO), Llywodraeth Cymru, mae cymhwyso’r datrysiad yn hyblyg ac felly bydd yn cael ei deilwra i amgylchiadau lleol a gofynion rhyngwynebu sefydliad iechyd.”

17/02/22
Beth yw'r buddion?

Y budd allweddol a'r prif reswm dros weithredu SganioErDiogelwch yw gwella diogelwch cleifion ond mae nifer o fanteision disgwyliedig:                                                                                                                                                                                                                                                           - Y gallu i olrhain cynhyrchion i gleifion

- Y gallu i gael gwared ar 'gynhyrchion wedi’u hailalw' yn gyflym

- Y gallu i dynnu sylw at rybuddion cynnyrch i’r defnyddiwr

- Lleihau 'achosion y gellir eu hosgoi' a gwella canlyniadau i gleifion

- Cysylltu gwybodaeth ddyfais yn awtomataidd â chofnodion cleifion

- Llai o driniaethau wedi'u canslo oherwydd diffyg argaeledd cynnyrch

- Mwy o fynediad at wybodaeth i glinigwyr er mwyn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau

- Mwy o hyder o gael y cynnyrch cywir ar gyfer y claf cywir

- Cynyddu’r broses ddysgu drwy ddefnyddio data a mewnwelediadau

- Arwain at ddefnyddio SganioErDiogelwch ar gyfer pwrpasau eraill e.e. olrhain cleifion

Gweler y ddolen hon am adroddiad buddion yn seiliedig ar brofiad diweddar ar draws prosiectau peilot NHS England: gs1_uk_a_scan_of_the_benefits_report.pdf (gs1uk.org)”

17/02/22
Pryd mae disgwyl y bydd SganioErDiogelwch ar waith?

Bydd rhoi SganioErDiogelwch ar waith yn dibynnu ar gyd-destun byrddau iechyd lleol a'r adnoddau sydd ar gael. Y bwriad yw ei roi ar waith ym mhob theatr ledled Cymru fel y gallwn gysylltu cynnyrch yn ddigidol â chlaf mewn theatr. Y cam cyntaf ar gyfer ei roi ar waith fydd ymgysylltu â phob bwrdd iechyd i ddiffinio cynllun a thîm prosiect lleol.

17/02/22
Ym mha ardaloedd y bydd yn cael ei roi ar waith?

Yn ystod camau cyntaf gweithredu’r rhaglen, bydd y ffocws ar theatrau ledled Cymru. Mewn rhai byrddau iechyd megis Hywel Dda, gellir ehangu ar hyn trwy weithredu’r rhaglen mewn adrannau Endosgopi a'r Unedau Gofal Dwys. Gallai labordai cathetr hefyd fod yn rhan o'r cynlluniau gweithredu cynnar yn dibynnu ar ddewisiadau byrddau iechyd unigol. Yn ei hanfod, mae angen gweithredu mewn unrhyw theatr neu labordy lle mae dyfeisiau'n cael eu mewnblannu i gleifion fan leiaf.

17/02/22
Pa hyfforddiant fydd yn cael ei ddarparu?

Darperir hyfforddiant cychwynnol gan Omnicell, sef y cyflenwr a ddewiswyd ar gyfer y datrysiad SupplyX. Fel rhan o'r gweithredu ym mhob bwrdd iechyd, bydd “uwch-ddefnyddwyr” dynodedig yn cael eu hyfforddi i safon uchel er mwyn gallu defnyddio’r datrysiad cyflawn. Yna bydd gan yr uwch-ddefnyddwyr hyn y gallu a'r wybodaeth angenrheidiol i hyfforddi defnyddwyr eraill, drwy raeadru’r wybodaeth iddynt.

17/02/22
Beth fydd yn digwydd os bydd rhaid rhannu nwyddau traul gydag ardaloedd eraill?

Os bydd rhaid rhannu nwyddau traul gydag ardaloedd eraill, gellir eu harchebu y tu allan i'r ardal bresennol gan SupplyX a bydd y stoc yn yr ardal honno’n lleihau. Yna gellir trosglwyddo stoc a'i hychwanegu at y stoc mewn ardaloedd eraill. Os yw SupplyX wedi’i alluogi yn yr ardal sy’n anfon a derbyn, yna gellir rheoli hyn o fewn y cais. Os mai dim ond yr ardal anfon sydd wedi'i halluogi gan SupplyX yna bydd lefelau stoc yn lleihau yn unol â hynny a bydd eitemau yn cael eu hail-archebu os bydd angen.

17/02/22
A fydd SganioErDiogelwch yn cynyddu fy llwyth gwaith?

Gyda’r cynnydd mewn awtomeiddio a'r defnydd o dechnoleg sganio codau bar, bydd gostyngiad yn y llwyth gwaith ym mhob ardal sy'n ymwneud â rheoli a chyhoeddi ac adalw deunyddiau. Er enghraifft, dylai bod staff clinigol yn cael eu rhyddhau o ddyletswyddau sy'n gysylltiedig â rheoli stoc fel y gallant ganolbwyntio mwy ar ofal cleifion. Bydd yr amser a'r ymdrech a gymerir i dracio cynhyrchion a adalwyd yn lleihau o gymryd dyddiau i oriau. Dylai’r swyddogaeth cyfrif stoc a chostio cleifion leihau’r gwaith sy'n gysylltiedig â chyfrif stoc a chostio lefel y claf yn sylweddol.

17/02/22
Sut mae hyn yn newid y ffordd rwy'n archebu stoc?

Dylai archebu stoc ddod yn llawer mwy llyfn ac awtomataidd. Bydd SupplyX yn effeithio'n gadarnhaol ar y ffordd y bydd stoc yn cael ei harchebu.

17/02/22
A fydd pob adran yn cymryd rhan?

Ni fydd pob adran yn cymryd rhan yn ystod y camau cynnar. Bydd y gwaith cychwynnol yn targedu theatrau a labordai cathetr a bydd rhai ardaloedd (e.e. Hywel Dda) hefyd yn canolbwyntio ar Unedau Gofal Dwys ac Endosgopi. Fodd bynnag, wrth i bob bwrdd iechyd ddatblygu i’w ddefnyddio ar gyfer pwrpasau eraill megis olrhain cleifion ac olrhain asedau, bydd mwy o adrannau'n cymryd rhan. Ar ôl rhoi’r rhaglen ar waith mewn theatrau a labordai cathetr yn ystod y camau cynnar, bydd yr adrannau canlynol yn debygol o gymryd rhan i raddau amrywiol: T.G., Ystadau, Clinigol, Caffael, Cyllid.

17/02/22
Ble alla i fynd os bydd angen help arnaf?

Os yw SupplyX eisoes ar waith yn eich ardal ac mae gennych gwestiwn sy’n ymwneud â SupplyX, cysylltwch â'ch uwch-ddefnyddiwr lleol. Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm canolog trwy’r e-bost canlynol:  ScanforSafetyWales@wales.nhs.uk

17/02/22
Beth yw safonau GS1 a sut y gellir eu defnyddio mewn gofal iechyd?

Y safonau byd-eang y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer SganioErDiogelwch yw GTINs (dynodwyr cynnyrch unigryw neu Rifau Adnabod Masnach Fyd-eang), GLNs (dynodwyr lleoliad unigryw neu Rifau Lleoliad Byd-eang), GSRN (Rhifau Perthynas Gwasanaeth Byd-eang a ddefnyddir i adnabod pobl yn unigryw) a hefyd GIAIs (Dynodwyr Asedau Unigol Byd-eang) gellir eu defnyddio i nodi llawer o asedau megis y rhai a reolir gan adran Peirianneg Glinigol.  Os hoffech ddeall mwy am safonau GS1 a sut y gellir eu rhoi ar waith mewn lleoliad gofal iechyd, mae'r animeiddiad a'r clip 3 munud byr hwn yn ddefnyddiol iawn:https://www.youtube.com/watch?v=vRtizEHU2aE

17/02/22
Pa offer fydd yn cael eu defnyddio i sganio codau bar?

Mae'r contract â SupplyX yn cynnwys darparu ffonau symudol iPhone a chasys a ddyluniwyd yn arbennig a fydd yn cael eu defnyddio i hwyluso sganio â llaw. Gellir defnyddio'r feddalwedd SupplyX hefyd ar ddyfeisiau eraill fel iPad a gellir ei defnyddio hefyd ar ddyfeisiau Android. Ond i ddechrau bydd yr iPhones a gaffaelwyd fel rhan o'r rhaglen weithredu yn cael eu defnyddio a’u darparu i bob bwrdd iechyd ymlaen llaw.

17/02/22
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng SupplyX a'r cypyrddau Omnicell?

Defnyddir cypyrddau Omnicell yn helaeth ledled Cymru ac maent yn gypyrddau sefydlog sy'n cofrestru eitemau sy'n cael eu storio ynddynt ac yna'n cael eu tynnu ohonynt. Mae rhai cypyrddau yn defnyddio technoleg RFID (Adnabod Amledd Radio). Mae SupplyX yn defnyddio dyfeisiau llaw a thechnoleg codio bar i sganio cynhyrchion. Mae defnyddio SupplyX a dyfeisiau sganio llaw yn golygu y gall storfeydd fod yn wahanol feintiau ac wedi’u cynllunio’n wahanol yn hytrach na bod yn gaeth i feintiau cypyrddau. Mae'r dyfeisiau llaw hefyd yn hwyluso sganio cynhyrchion i gleifion. Mae SupplyX a chypyrddau Omnicell yn ddau gynnyrch gwahanol.

17/02/22
A yw SganioErDiogelwch ar waith yn unrhyw le arall heblaw yng Nghymru?

Ydy. Yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus a oedd yn cynnwys chwe safle arddangos, mae dros 20 o safleoedd yn Lloegr bellach yn fyw i raddau amrywiol. Y chwe safle arddangos cychwynnol hyn oedd: Derby, Leeds, North Tees a Hartlepool, Plymouth, Cernyw a Salisbury.

17/02/22
Beth yw "Achosion y gellir eu hosgoi" a sut mae SganioErDiogelwch yn helpu i'w lleihau?

“Achosion y gellir eu hosgoi” yw gwallau mewn gofal meddygol y gellir eu hadnabod yn glir, y gellir eu hatal ac sydd â chanlyniadau difrifol i gleifion e.e., gall rhybuddion diogelwch cynnyrch wrth sganio helpu i atal digwyddiadau o'r fath.

17/02/22
A gaiff y rhaglen SganioErDiogelwch ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru?

“Caiff. Ym mis Mehefin 2021, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru achos busnes llawn a buddsoddiad cysylltiedig fel y camau cyntaf tuag at ymgorffori egwyddorion ac arferion SganioErDiogelwch ar draws GIG Cymru.

17/02/22
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae diogelwch cleifion wrth wraidd rhaglen SganioErDiogelwch GIG Cymru. Mae cyflwyno sganio codau bar ac awtomeiddio'r cysylltiad rhwng cynhyrchion, lleoedd a phobl a nodwyd yn rhai unigryw, yn darparu data amser real yn y man lle rhoddir gofal a’r gallu i olrhain dyfeisiau meddygol sydd wedi'u mewnblannu ar unwaith pe bai angen galw cynnyrch neu glaf yn ôl. Bydd y buddsoddiad yn y fenter Unwaith i Gymru hon hefyd yn sicrhau arbedion ariannol sylweddol, gwell rheolaeth ar stoc, bydd yn arbed y staff clinigol rhag gorfod cyflawni tasgau gweinyddol llafurus a bydd yn diogelu ein cleifion rhag niwed y gellir ei osgoi ar yr un pryd.”

17/02/22
A oes gofyniad cyfreithiol i weithredu SganioErDiogelwch?

Rhaid i’r gwledydd datganoledig ddarparu cynnyrch sy'n cysylltu data â chleifion gan ddechrau gyda dyfeisiau a gaiff eu mewnblannu. Mae GIG Cymru yn datblygu'r MDIS (System Gwybodaeth Dyfeisiau Meddygol) a fydd yn helpu Cymru i gydymffurfio â'r Ddeddf Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol. Mae'n debygol y caiff cydymffurfio ei fandadu o 2023.

Rhannu: