Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol yn rhan annatod o bob agwedd ar y GIG yng Nghymru trwy’r Fframwaith Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad, Safon 2 yn Safonau Gofal Iechyd Cymru a’r Fframwaith Llywodraethu.
Mae yna hefyd dermau a ddefnyddir i ddiffinio gwerthoedd cymdeithas, sydd wedi’u hymgorffori yn Neddfwriaeth y DU a Chytuniadau’r Cenhedloedd Unedig. Maent yn ceisio hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, gan roi cyfle i bob unigolyn wireddu ei botensial, heb orfod dioddef rhagfarn a gwahaniaethu, a rhoi’r hawl iddo gael ei drin yn deg, â pharch, yn gyfartal, ag urddas ac ag ymreolaeth.
Mae’r fframwaith deddfwriaethol yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo cydraddoldeb ym mhopeth a wnânt. Mae hyn yn cynnwys dyletswyddau cydraddoldeb y mae’n rhaid eu cyflawni.
Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gylch gwaith statudol i hyrwyddo a monitro hawliau dynol a diogelu, gorfodi a hyrwyddo cydraddoldeb.
Mae deddfwriaeth cydraddoldeb yn rhoi sylw i:
Dolenni defnyddiol: