Neidio i'r prif gynnwy

Byw Gwerthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus

 

Mae’r adran hon yn ymdrin â’r safonau bywyd cyhoeddus ac ymddygiad y dylai staff y GIG a’r cyhoedd eu disgwyl; ac mae’n rhoi arweiniad ar y safon iechyd corfforaethol, y fframwaith gwerthoedd a safonau ymddygiad ar gyfer GIG Cymru, cymhwyster i ymarfer, cydraddoldeb, amrywiaeth a Hawliau Dynol, a thrais ac ymddygiad ymosodol.

Mae byw gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus yn golygu bod yn sefydliad â gwerthoedd yn ei lywio, sydd wedi’i wreiddio yn egwyddorion Nolan ac mewn safonau bywyd cyhoeddus ac ymddygiad uchel. Dyma sy’n llywio’r sefydliad mewn gwirionedd – y diwylliant corfforaethol a’r gwerthoedd y mae’n ceisio’u byw. Mae egwyddorion Nolan, Cod y Gwasanaeth Sifil, bod yn agored, a Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid Llywodraeth Cymru i gyd yn berthnasol. Yn y GIG yng Nghymru, mae’r rhain wedi’u diffinio yn ei Fframwaith Gwerthoedd a Safonau Ymddygiad. Bydd gan bob sefydliad bron ddatganiad o’i werthoedd.

Y peth pwysig yw’r graddau y cânt eu rhoi ar waith yn y ffordd yr aiff y sefydliad o gwmpas ei bethau. Er enghraifft, fe ddywed y rhan fwyaf o sefydliadau wrthych eu bod yn trysori eu staff fel eu hadnodd pwysicaf etc; ond ni fydd hynny’n wir ym mhob un. Yn yr un modd, mae’n bosibl y cewch mai’r hyn sy’n llywio rhai sefydliadau mewn gwirionedd yw personoliaeth y sawl sydd ar y brig; neu beth bynnag yw’r broblem bwysicaf ar y pryd – mae yna sefydliadau sy’n adweithio i’r hyn sy’n digwydd iddynt, yn hytrach na bod yn rhagweithiol o ran cyflawni eu hamcanion. Felly bydd sefydliadau sy’n byw gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus yn gallu nodi, yn weddol gyson, y gwerthoedd sy’n llywio’r sefydliad ac yn gallu dangos i chi ble y maent wedi’u cofnodi. Bydd ganddynt werthoedd sy’n adlewyrchu’n ddigonol yr ethos gwasanaeth cyhoeddus yn eu hamgylchiadau penodol, ynghyd â phatrymau ymddygiad corfforaethol ac unigol sy’n ceisio byw y gwerthoedd hynny. Bydd yn sefydliad sydd â gwerthoedd yn ei lywio yn anad dim – cyhyd â bod y gwerthoedd yn iawn.