Neidio i'r prif gynnwy

Safon Iechyd Gorfforaethol

 

Mae'r Safon Iechyd Gorfforaethol (y Safon) yn rhan o raglen 'Cymru Iach ar Waith' a hi yw'r nod ansawdd genedlaethol ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle. Mae'n darparu fframwaith a chydnabyddiaeth i gyflogwyr sy'n gweithio i wella iechyd a lles eu staff, a ategir gan gyngor a chymorth rhad ac am ddim gan Brif Ymarferydd Iechyd y Gweithle o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r Safon yn defnyddio dull datblygu sefydliadol trwy hyrwyddo arferion rheoli da trwy gyfrwng saith o elfennau craidd. Mae hefyd yn ymdrin ag wyth o faterion iechyd penodol ac yn hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a datblygu cynaliadwy.

Dyfernir y Safon mewn Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm i adlewyrchu pob cam datblygiad a gyrhaeddir ac mae'n ddilys am dair blynedd.

Ategir y Safon gan Wobr Iechyd y Gweithle Bach ar gyfer cyflogwyr sydd â hyd at 50 o staff. Datblygwyd y Wobr hon i ateb anghenion iechyd a lles gweithleoedd llai, ar draws wyth o elfennau craidd a phump o destunau ffyrdd iach o fyw. Mae'r Wobr ar gael mewn Efydd, Arian ac Aur ac unwaith eto mae'n ddilys am dair blynedd.

Mae cyflogwyr sy'n ymwneud â rhaglenni'r gwobrau wedi nodi'r manteision canlynol:

  • llai o absenoldeb oherwydd salwch, mwy o staff wrth eu gwaith bob diwrnod gwaith
  • lefelau straen is ar draws y gweithlu
  • staff hapusach, mwy o gymhelliant a chynhyrchiant.

Os ydych yn Ddeintydd, Meddyg Teulu, Optegydd neu Fferyllydd, efallai yr hoffech ystyried manteision cymryd camau pendant i amddiffyn iechyd a lles eich staff trwy gyfrwng y rhaglenni gwobrwyo hyn sy'n rhad ac am ddim.

Mae gwybodaeth bellach ar gael trwy'r ddolen gyswllt ar y dudalen hon neu trwy gyfrwng y cysylltiadau canlynol: