Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod hyrwyddo datblygu cynaliadwy wrth galon gwaith Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn eu Cynllun Datblygu Cynaliadwy newydd, Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned (2009) mae Gweinidogion Cymru'n datgan yn glir mai datblygu cynaliadwy fydd 'nod strategol cyffredinol pob un o'n polisïau a'n rhaglenni, yn holl bortffolios y Gweinidogion'. Datblygu cynaliadwy fydd yr 'egwyddor drefnu ganolog ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru'.
Mae goblygiadau hyn yn bellgyrhaeddol i bob sefydliad yn y GIG. Mae'r Cynllun yn dynodi dau gam i'w cymryd ar unwaith mewn perthynas ag iechyd -
Cam gweithredu 13: Byddwn yn buddsoddi £190 miliwn mewn gwelliannau iechyd y cyhoedd ac iechyd drwy'r Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd, 'Ein Dyfodol Iach' a fydd yn gwella ansawdd a hyd bywyd ac yn gwella tegwch ym maes iechyd.
Cam gweithredu 14: Byddwn yn sicrhau y bydd datblygu cynaliadwy yn un o amcanion craidd y GIG ailstrwythuredig ym mhopeth a wna drwy roi dyletswyddau clir i'r cyrff newydd ddangos arfer gorau ym meysydd cynllunio a dylunio, adeiladu, trafnidiaeth a rheoli gwastraff, ac o ran y defnydd o ynni a dur.
Bydd gofyn i gyrff y GIG gyfrannu'n llawn at gyflawni ymrwymiadau'r llywodraeth ar ddatblygu cynaliadwy.