Fframwaith gwerthoedd a safonau ymddygiad, ynghyd â rheolau sefydlog a chyfarwyddiadau ariannol sefydlog enghreifftiol newydd fydd yr elfennau allweddol yn fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd newydd y GIG yng Nghymru.
Mae'r GIG yng Nghymru yn rhan hanfodol o'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Wrth gydweithio â'i bartneriaid allweddol, gan gynnwys llywodraeth leol a'r Trydydd Sector, mae gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus ac ymddygiad cysylltiedig yn ganolog iddo, ac mae hynny’n hanfodol. Rhaid i sefydliadau'r GIG gael eu llywio gan werthoedd, a bod â'u gwreiddiau mewn safonau bywyd cyhoeddus ac ymddygiad uchel.
Dyma'r gwerthoedd creiddiol sy'n sail i'r GIG yng Nghymru:
Mae’r gwerthoedd craidd hyn yn cefnogi llywodraethu da ac yn helpu i sicrhau bod y safonau uchaf posibl yn cael eu bodloni yn holl waith GIG Cymru.
Disgwylir i bob unigolyn sy’n gweithredu yn y GIG yng Nghymru gyflawni eu swyddogaethau gydag ymroddiad ac ymrwymiad i’r GIG a’i werthoedd craidd. Er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud hyn, ceir Codau Ymddygiad ar gyfer Aelodau Bwrdd a Rheolwyr y GIG sy’n ymgorffori "Egwyddorion Nolan" sef Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus. At hynny, mae polisïau ar feysydd penodol, gan gynnwys chwythu’r chwiban a threfniadau cyfaddawdu, wedi’u nodi yn Bod yn Agored a Chynnal Busnes.