Ym mis Mai a mis Mehefin 2018, daeth timau aml-broffesiynol o anesthetyddion, bydwragedd, obstetryddion, gweithwyr cymorth a darlithwyr prifysgol o bob cwr o Gymru ynghyd i hyfforddi fel hwyluswyr PROMPT mewn cwrs hyfforddi pwrpasol i staff a ddarparwyd gan Sefydliad Mamolaeth PROMPT.
Gyda chefnogaeth Tîm Gweithredu PROMPT Cymru, cymerodd y clinigwyr profiadol hyn gyfrifoldeb am ddatblygu'r cynnwys a chyflwyno cyrsiau PROMPT Cymru yn eu gwasanaethau eu hunain ac erbyn mis Ionawr 2019, roedd PROMPT Cymru yn cael ei redeg ym mhob un o'r 7 Bwrdd Iechyd. Cefnogodd y Tîm Gweithredu, sy'n cynnwys tîm aml-broffesiynol o glinigwyr o GIG Cymru a Sefydliad Mamolaeth PROMPT, dimau cyfadran lleol i drefnu, gweithredu a chyflwyno hyfforddiant PROMPT Cymru.
Addaswyd deunyddiau hyfforddi PROMPT i gyd-fynd â mentrau GIG Cymru a daeth y brand PROMPT Cymru i fodolaeth! Ariannodd Cronfa Risg Cymru adnoddau hyfforddi hanfodol gan gynnwys modelau ymarfer a Llawlyfrau PROMPT i hwyluso cyflwyno PROMPT Cymru.
Cynhaliwyd diwrnodau hyfforddi Datblygu Cyfadran cenedlaethol a mewnol ychwanegol gan y tîm gweithredu drwy gydol 2019, er mwyn sicrhau bod nifer ddigonol o glinigwyr aml-broffesiynol yn cael eu hyfforddi fel staff academaidd.
Cynhaliwyd Lansiad Cenedlaethol PROMPT Cymru ar 23 Hydref 2018 yng Nghaerdydd gyda phrif anerchiadau gan Reolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru, y Prif Swyddog Nyrsio a Phrif Swyddog Meddygol Cymru.
Yn 2019, gwnaeth Llywodraeth Cymru orfodi bydwragedd, meddygon obstetreg ac anesthetyddion sy'n darparu gofal mamolaeth yn rheolaidd i gymryd rhan yn hyfforddiant PROMPT Cymru (dolen i Gylchlythyr Iechyd Cymru) Gweithredu safonau PROMPT mewn gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru (WHC/2019/022) | LLYW.CYMRU
Yn y flwyddyn gyntaf, cynhaliwyd 107 o gyrsiau PROMPT Cymru yn GIG Cymru!
Mae rhagor o wybodaeth am weithredu PROMPT Cymru ar gael yn yr erthygl hon a gyhoeddwyd yn y BMJ.