Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw PROMPT?

Members of PROMPT Team demonstrating programme

Mae PROMPT (Hyfforddiant Amlbroffesiynol Obstetrig Ymarferol) yn becyn hyfforddiant amlbroffesiynol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer argyfyngau obstetrig. Mae'n gysylltiedig â gwelliannau uniongyrchol mewn canlyniadau i famau a babanod trwy wella gwybodaeth, sgiliau clinigol a ffactorau dynol. Mae'n cael ei redeg gan Sefydliad Mamolaeth PROMPT, sefydliad elusennol wedi'i leoli ym Mryste, sydd â dros 20 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant obstetrig brys. Ewch i wefan Sefydliad Mamolaeth PROMPT ymai gael rhagor o wybodaeth am PROMPT.

 

Mae PROMPT wedi’i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol Obstetreg a Gynaecoleg (RCOG), Cymdeithas yr Anesthetyddion Obstetrig (OAA) a Choleg Brenhinol Bydwragedd (RCM). Mae wedi bod yn gysylltiedig â gostyngiad o 50% mewn babanod sydd wedi cael eu geni ar ôl cyfnod llawn yn y groth ag Apgar 5 munud <7, gostyngiad o 50% mewn enseffalopathi hypocsig-isgemig newyddenedigol (HIE) a gostyngiad o 100% mewn anafiadau plecsws breichiol parhaol ar ôl ‘dystocia’ ysgwydd. 

Ewch i wefan Sefydliad Mamolaeth PROMPT yma i gael rhagor o wybodaeth am PROMPT. 

Cliciwch yma i wylio fideos hyfforddiant defnyddiol ar sianel YouTube PROMPT.

 

 

PROMPT Cymru

Rhaglen diogelwch mamolaeth yw PROMPT Cymru a ariennir gan Gronfa Risg Cymru ac a gefnogir gan Sefydliad Mamolaeth PROMPT. Ym mis Mai a mis Mehefin 2018, mynychodd timau aml-broffesiynol o anesthetyddion, bydwragedd, obstetregwyr a gweithwyr cymorth sy'n cynrychioli pob bwrdd iechyd yng Nghymru, gwrs hyfforddi pwrpasol a gyflwynwyd gan Sefydliad Mamolaeth PROMPT. Addaswyd deunyddiau hyfforddi PROMPT i alinio â mentrau GIG Cymru, ac roedd Cronfa Risg Cymru yn falch o groesawu cyfranogiad a chefnogaeth tîm OBS Cymru. DOLEN YMA

 

Gyda chefnogaeth Tîm Gweithredu PROMPT Cymru, cymerodd y clinigwyr profiadol hyn gyfrifoldeb am ddatblygu’r cynnwys a rhedeg cyrsiau PROMPT Cymru yn eu gwasanaethau, ac erbyn Ionawr 2019, roedd PROMPT Cymru ar waith ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd.

 

Mae cyrsiau PROMPT Cymru yn cynnwys diwrnod llawn o hyfforddiant ar yr unedau mamolaeth neu yn yr ardal gymunedol ac mae pob aelod o’r tîm mamolaeth yn eu mynychu yn flynyddol. Mae’r diwrnod yn cynnwys darlithoedd, gweithfannau a senarios wedi'u seilio ar argyfyngau obstetreg gyda ffocws ar weithio mewn tîm, cyfathrebu ac ymwybyddiaeth sefyllfaol.