Mae Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 yn cynllunio sylfaen y gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Mae’r newid o ddull comisiynu sy’n seiliedig ar y farchnad i system wedi’i chynllunio wedi arwain at yr angen am wahanol sgiliau yn sefydliadau’r GIG. Cyhoeddir Fframwaith Cynllunio’r GIG, sy’n arwain datblygu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, yn flynyddol bob hydref.
Mae angen cydnabyddedig i gryfhau sgiliau cynllunio ar draws GIG Cymru. Yn wahanol i gydweithwyr cyllid ac Adnoddau Dynol (AD), nid yw cynllunwyr y GIG wedi dilyn llwybr safonol na chymhwyster cynllunio ac maent yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau. Mae angen sgiliau cynllunio cryf trwy’r sefydliadau i gyd fel eu bod yn datblygu’n elfen greiddiol o setiau sgiliau ar bob lefel.
Mae academi Gynllunio wedi’i sefydlu i gryfhau sgiliau cynllunio gydag ymgysylltu da rhwng cymuned gynllunio GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r academi yn cynnig cyfleoedd i sicrhau cymhwyster proffesiynol mewn cynllunio gofal iechyd ynghyd â digwyddiadau dysgu mwy traddodiadol.
Mae’r Rhaglen Ddysgu ym maes Cynllunio yn canolbwyntio ar y pedwar conglfaen canlynol:
Cefnogir y Rhaglen Ddysgu ym maes Cynllunio gan Grŵp Cyfarwyddwyr Cynllunio Cymru Gyfan a Grŵp Cyfarwyddwyr Cynllunio Cynorthwyol Cymru Gyfan wrth sicrhau cysylltiadau partneriaeth â’r Academi Gyllid a Rhwydwaith Cynllunio’r Gweithlu.