Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 yn cynllunio sylfaen y gwasanaethau iechyd yng Nghymru.  Mae’r newid o ddull comisiynu sy’n seiliedig ar y farchnad i system wedi’i chynllunio wedi arwain at yr angen am wahanol sgiliau yn sefydliadau’r GIG. Cyhoeddir Fframwaith Cynllunio’r GIG, sy’n arwain datblygu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, yn flynyddol bob hydref.

 Mae angen cydnabyddedig i gryfhau sgiliau cynllunio ar draws GIG Cymru.  Yn wahanol i gydweithwyr cyllid ac Adnoddau Dynol (AD), nid yw cynllunwyr y GIG wedi dilyn llwybr safonol na chymhwyster cynllunio ac maent yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau. Mae angen sgiliau cynllunio cryf trwy’r sefydliadau i gyd fel eu bod yn datblygu’n elfen greiddiol o setiau sgiliau ar bob lefel.

Mae academi Gynllunio wedi’i sefydlu i gryfhau sgiliau cynllunio gydag ymgysylltu da rhwng cymuned gynllunio GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r academi yn cynnig cyfleoedd i sicrhau cymhwyster proffesiynol mewn cynllunio gofal iechyd ynghyd â digwyddiadau dysgu mwy traddodiadol.

 Mae’r Rhaglen Ddysgu ym maes Cynllunio yn canolbwyntio ar y pedwar conglfaen canlynol:

 

  • Lansiwyd y Diploma mewn Cynllunio Gofal Iechyd yn hydref 2019. Bellach, mae digwyddiadau dysgu bob yn ail flwyddyn i gymuned gynllunio GIG Cymru. Cyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Cynllunio Cynorthwyol sy’n mynychu yn bennaf, er bod cydweithwyr Cyllid a Llywodraeth Cymru yn mynychu lle y bo hynny’n briodol.
  • Comisiynir gweithdai i gefnogi datblygiad sgiliau penodol megis modelu, sy’n hanfodol ar gyfer datblygu cynlluniau sefydliadol, gan amrywiaeth o ddarparwyr ac maent yn cael eu cynnal yn ôl yr angen.  
  • Mae cyfres o ddosbarthiadau meistr yn cael eu datblygu, wedi’u trefnu gan Lywodraeth Cymru i adeiladu sgiliau penodol. Roedd nifer da yn bresennol yn y cyntaf (ar alw a chapasiti) ac fe gafodd derbyniad da.
  • Bellach, mae digwyddiadau dysgu bob yn ail flwyddyn i gymuned gynllunio GIG Cymru. Cyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Cynllunio Cynorthwyol sy’n mynychu yn bennaf, er bod cydweithwyr Cyllid a Llywodraeth Cymru yn mynychu lle y bo hynny’n briodol.

Cefnogir y Rhaglen Ddysgu ym maes Cynllunio gan Grŵp  Cyfarwyddwyr Cynllunio Cymru Gyfan a Grŵp Cyfarwyddwyr Cynllunio Cynorthwyol Cymru Gyfan wrth sicrhau cysylltiadau partneriaeth â’r Academi Gyllid a Rhwydwaith Cynllunio’r Gweithlu.