Mae’r Cyfarwyddwyr Cynllunio yn gyfrifol am gynnal nifer o ddigwyddiadau dysgu bob blwyddyn. Datblygir y digwyddiadau hyn o gwmpas themâu allweddol neu bynciau o ddiddordeb penodol i’r gymuned gofal iechyd a chymdeithasol. Nod y digwyddiadau yw cefnogi’r cylch cynllunio ac i wella ac ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth cynllunwyr a’r sawl sy’n cynllunio.
Maent ar gael i gydweithwyr yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, yn ogystal â’r trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae’r digwyddiadau hyn yn ceisio chwalu’r rhwystrau a sicrhau bod cynrychiolwyr yn gallu rhwydweithio, dysgu a manteisio ar le i rannu arferion da.
Bydd y gynhadledd flynyddol nesaf yn digwydd ar 7 Mehefin 2023. Cynhelir y digwyddiad wyneb yn wyneb drwy'r dydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Thema'r gynhadledd fydd 'Cymhlethdod Cydweithio'.
Cyn cofrestru, o ystyried y dyraniad cychwynnol fesul sefydliad, gwiriwch â'ch cynrychiolydd Cyfarwyddwr Cynllunio / Cyfarwyddwr Cynllunio Cynorthwyol. Os na all sefydliadau lenwi eu dyraniad, byddwn yn ceisio cynnig lleoedd ychwanegol i gynulleidfa ehangach.