1 TACHWEDD 2024 byddwn yn gwneud newid sylweddol i’r ffurflenni a ddefnyddir i adrodd am bryderon diogelu plant, oedolion a gweithwyr proffesiynol i bartneriaid awdurdodau lleol.
Rhaid llenwi Ffurflen Adroddiad Diogelu GIG Cymru ar gyfer Cymru Gyfan GIG Cymru gan ddefnyddio Datix Cymru. Mae'r newid hwn yn berthnasol i bob corff Iechyd ac eithrio Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), sydd eisoes wedi cyflwyno system electronig unedig.
Nod y newid hwn yw sicrhau bod gennym ni ddull Unwaith i Gymru o gofnodi ac adrodd am bryderon diogelu. Bydd y broses newydd hefyd yn rhoi amlygrwydd cynharach o bryderon diogelu i arweinwyr o fewn sefydliadau.
Mae’r broses newydd hon yn galluogi sefydliadau i ddatblygu dealltwriaeth gyson, gwell sicrwydd ansawdd a monitro gweithgarwch diogelu yn GIG Cymru.
Yn gallu chwilio, creu dangosfyrddau diogelu, dadansoddi tueddiadau, perfformiad a chanlyniadau.
Ni fydd ffurflenni atgyfeirio diogelu presennol yn cael eu defnyddio mwyach o 1 Tachwedd 2024.
Mae fideo hyfforddi a chanllaw gwybodaeth ar gael yma:
Submitting a Safeguarding Report
OfW Safeguarding Reporting User Guide (PDF, 553KB)
Mae Tîm Canolog Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru wedi'i leoli ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) ac yn lletya’r wefan hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses adrodd neu unrhyw faterion technegol, cysylltwch â:
OnceForWales.CMS@wales.nhs.uk – caiff y mewnflwch hwn ei fonitro rhwng dydd Llun a dydd Gwener 0930-1600.
Bydd Canllawiau ychwanegol, hyfforddiant a chymorth gan eich tîm diogelu ac arweinwyr Datix ar gael yn eich sefydliad.
Pan fyddwch yn cyflwyno atgyfeiriad diogelu drwy Datix Cymru, bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn copi o’r wybodaeth erbyn y diwrnod gwaith nesaf. Ar gyfer materion brys iawn lle mae angen i ddefnyddiwr echdynnu ac anfon yr wybodaeth yn uniongyrchol i'r Awdurdod Lleol, mae'n bosibl gwneud hyn. Mae fideo hyfforddi wedi'i gynhyrchu i arwain defnyddwyr yn yr amgylchiadau hyn.
Merging a Safeguarding Report to send to Local Authority
Adborth Defnyddwyr
Byddem yn falch o dderbyn unrhyw adborth ar y broses gofnodi i lywio gwelliannau. Anfonwch e-bost at Dîm Canolog Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru: