Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Cyflawni Gweithrediad Llwyddiannus

Sicrhau gweithredu llwyddiannus

Sefydlwyd nifer o ffrydiau gwaith i ystyried a gweithredu galluoedd Technegol, Sefydliadol a Swyddogaethol y system newydd. Mae Rhwydweithiau a Ffrydiau Gwaith yn parhau i gyfarfod i ddatblygu'r system.

 

Cyfarfod 

Rôl 

Llywodraethu Cynnwys a Diweddariadau 

Yn darparu goruchwyliaeth a llywodraethu i sicrhau bod datblygu a diweddaru cynnwys yn cael eu rhaglennu'n effeithlon gan sicrhau bod ymarferoldeb Cymru gyfan yn cael ei gadw a bod arloesedd a datblygiad lleol yn cael eu cefnogi a'u cynllunio'n briodol.

Llif Gwaith Adrodd, Cipio, Codio a Rheoli Digwyddiadau

Mae hon yn ffrwd waith barhaus i sefydlu Llifau Gwaith Cymru Gyfan, Meysydd Cymru Gyfan a Sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer Digwyddiadau. Cysoni dysgu, gwella a gweithgareddau diogelwch cleifion ledled GIG Cymru a sicrhau bod y system yn gallu casglu themâu a thueddiadau lleol a chenedlaethol

Rheoli Hawliadau 

Mae hwn yn Rhwydwaith parhaus lle mae'r aelodau'n gyfrifol am ddatblygiad parhaus swyddogaeth Hawliadau yn Datix Cymru i sicrhau bod y modiwl yn bodloni gofynion y Timau Hawliadau.

Rheoli Cwynion 

Mae hwn yn Rhwydwaith parhaus lle mae'r aelodau'n gyfrifol am ddatblygiad parhaus y swyddogaeth Adborth yn Datix Cymru i sicrhau bod y modiwl yn bodloni gofynion y Timau Cwynion.

Rheoli Risg Gorfforaethol

Sefydlu swyddogaethau craidd ar gyfer Cofrestrau Risg Corfforaethol a Fframweithiau Sicrwydd y Bwrdd. Pennu terminoleg Gymru Gyfan a llifau gwaith Cymru Gyfan ar gyfer swyddogaeth risg

Rheoli Achosion Cwest 

Rhwydwaith parhaus yw hwn lle mae'r aelodaeth yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus swyddogaeth y Cwest yn Datix Cymru i sicrhau bod y modiwl yn bodloni gofynion y Timau Cwest.

Monitro Deallus, Dangosfyrddau a Dadansoddi Data

Pennu adroddiadau system craidd a gaiff eu hymgorffori yn swyddogaeth y system graidd. Ystyried anghenion hyfforddi ar gyfer ymholi a llunio adroddiadau.

Adolygiadau o Farwolaethau 

Mae hwn yn Ffrwd Waith barhaus lle mae'r aelodau'n gyfrifol am ddatblygiad parhaus swyddogaeth Marwolaethau Datix Cymru i sicrhau bod y modiwl yn bodloni gofynion y Timau Marwolaethau.

Swyddogaethau’r Archwilydd Meddygol

Hwyluso’r gwaith o gyflwyno system er mwyn galluogi swyddogaethau ansawdd a thrafodaethol y tîm archwilio meddygol a chysylltu hyn â’r broses Dysgu o Farwolaethau mewn cyrff iechyd

Cydymffurfio â’r Ddeddf Staffio Nyrsys

Rhoi cyngor ac arweiniad i Fwrdd y Rhaglen wrth sicrhau bod gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio yn cael eu hadnabod, eu cyfeirio atynt a’u cynnwys mewn swyddogaethau cysylltiedig.

PALS/Canmoliaeth 

Mae hwn yn Ffrwd Waith barhaus lle mae'r aelodaeth yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus y swyddogaeth Adborth yn Datix Cymru i sicrhau bod y modiwl yn bodloni gofynion PALS ac yn galluogi cofnodi Canmoliaeth.

Rheoli Achosion Gwneud Iawn 

Rhwydwaith parhaus yw hwn lle mae'r aelodaeth yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus y swyddogaeth Gwneud Iawn yn Datix Cymru i sicrhau bod y modiwl yn bodloni gofynion y Timau Gwneud Iawn.

Atgyfeiriadau a Rheoli Diogelu 

Mae hwn yn Ffrwd Waith barhaus lle mae'r aelodau'n gyfrifol am ddatblygiad parhaus y swyddogaeth Diogelu yn Datix Cymru i sicrhau bod y modiwl yn bodloni gofynion y Timau Diogelu. Gweithredu swyddogaeth ar gyfer hysbysu awdurdodau lleol yn awtomataidd ynghylch achosion.

Swyddogaeth Rhybuddion Diogelwch             

Mae hwn yn Ffrwd Waith barhaus lle mae'r aelodaeth yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus swyddogaeth Rhybuddion Diogelwch yn Datix Cymru i sicrhau bod y modiwl yn bodloni gofynion GIG Cymru.

Thrombo-emboledd Gwythiennol 

Mae hon yn ffrwd waith sydd wedi'i sefydlu er mwyn cofnodi achosion o Thrombo-emboledd a gafwyd tra yn ysbytai’r bwrdd iechyd

Adborth ar Brofiad Pobl 

Rhwydwaith parhaus yw hwn lle mae'r aelodau'n gyfrifol am ddatblygiad parhaus yr Arolygon Cenedlaethol.

Ombwdsmon 

Rhwydwaith parhaus yw hwn lle mae'r aelodau'n gyfrifol am ddatblygiad parhaus llif gwaith a chodio'r Ombwdsmon.

Codio 

Mae hon yn Ffrwd Waith barhaus lle mae'r aelodau'n gyfrifol am ddatblygiad parhaus y Codau Cenedlaethol a ddefnyddir ledled y system er mwyn cofnodi a dadansoddi themâu a thueddiadau.

Rhwydwaith Dyletswydd Gonestrwydd

Mae hwn yn Rhwydwaith parhaus lle mae'r aelodaeth yn gyfrifol am ddatblygiad parhaus llif gwaith a chodio’r Ddyletswydd Gonestrwydd.