Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraethu'r Rhaglen

Llywodraethu

Mae llywodraethu da yn hanfodol bwysig mewn unrhyw raglen gymhleth. Mae Pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi cymeradwyo canlyniad y tendr ar ran holl sefydliadau GIG Cymru ac mae hyn wedi’i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru.

 

pdf icon

 

Llywodraethu'r Rhaglen Strwythur

 

Mae Bwrdd Cenedlaethol y Rhaglen ac mae ganddo lwybr llywodraethu drwy Bwyllgor y Bartneriaeth a Phwyllgor Cronfa Risg Cymru. Mae cysylltiadau â grwpiau cenedlaethol allweddol wedi’u sefydlu. Mae cysylltiadau rheolaidd â’r Grŵp Gwrando a Dysgu o Adborth (y prif gorff ar gyfer argymhellion ar Adroddiad Evans) a’r Fforwm Cenedlaethol ar Ansawdd a Diogelwch ar waith.

Mae Tîm Rhaglen System Rheoli Pryderon Unwaith dros Gymru yn grŵp canolog sydd wedi’i letya gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, ac mae’n gyfrifol am gyflunio, datblygu a chynnal yr holl systemau. Mae pob un o’r ffrydiau gwaith yn cydweithio’n uniongyrchol â thîm y rhaglen a darperir adroddiadau i Fwrdd Cenedlaethol y Rhaglen.

Am fod portffolio Gweithio i Wella yn cael ei arwain yn gyffredinol gan Gyfarwyddwyr Nyrsio GIG Cymru, mae’r Fforwm Cyfarwyddwyr Nyrsio wedi derbyn diweddariadau rheolaidd, a bydd yn parhau i dderbyn y rhain. Gofynnir i’r grŵp gefnogi Cylch Gorchwyl a phenderfyniadau pwysig Bwrdd Cenedlaethol y Rhaglen hefyd. Daw Cadeirydd Bwrdd Cenedlaethol y Rhaglen o’r Fforwm Cyfarwyddwyr Nyrsio.

Mae gan yr holl sefydliadau Arweinwyr Systemau Lleol, sy’n cydlynu enghreifftiau lleol o’r system Unwaith Dros Gymru. Gellir dod o hyd i Gylch Gorchwyl Bwrdd Cenedlaethol y Rhaglen yma.