Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

DatixDown

Rhybudd: Mae'n ddrwg gennym, mae'n ymddangos bod eich system sefydliadol ar-lein ac ar gael i'w defnyddio trwy eich proses arferol. Ewch yn ôl i dudalen lanio eich sefydliad lle byddwch yn dod o hyd i'ch dolenni adrodd Datix Cymru. Am unrhyw ymholiadau pellach ynghylch y system, cysylltwch â'ch Gweinyddwr Arweiniol eich System Leol i gael cymorth.

Ynglŷn â DatixDown

Mae'r broses DatixDown yn darparu swyddogaeth adrodd syml i alluogi adrodd am ddigwyddiadau electronig parhaus ar draws GIG Cymru yn ystod cyfnodau pan nad yw Datix Cymru ar gael.

Mae'r broses yn cael ei rhoi ar waith gan Dîm Canolog System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru. Dim ond os nad yw'r system ar gael y caiff ei defnyddio

Mae'r broses yn disodli Ffurflen Adrodd Digwyddiadau Datix Cymru, gan sicrhau y gellir adrodd am ddigwyddiadau.

Ni fydd mynediad i system Datix Cymru ar gyfer adolygu a diweddaru cofnodion Digwyddiadau ar gael tra bydd y broses DatixDown ar waith.

Pan fydd y ffurflen wedi'i chwblhau a'i chyflwyno, caiff ei hanfon at gysylltiadau corfforaethol allweddol o fewn eich corff iechyd i'w hadolygu.

Os bydd Datix i lawr, bydd y botwm isod yn eich cyfeirio at y ffurflenni perthnasol i gyflwyno adroddiad digwyddiad.

Ffurflen adrodd sefyliadol