Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn pwysleisio mai cyfrifiadura cwmwl yw’r cyfeiriad y mae sawl gwasanaeth yn mynd iddo a bod hwn yn faes sy’n datblygu’n sylweddol ar gyfer gwasanaethau TGCh, a’i fod yn cynnwys manteision mawr i sefydliadau. Mae Cylchlythyron Iechyd Cymru a Chanllawiau GIG Cymru wedi cael eu cyhoeddi ar y pwnc hwn ac anogir y defnydd o gyfrifiadura cwmwl fel platfform ar gyfer systemau TGCh newydd. Mae hefyd yn bwysig sicrhau y caiff cydymffurfiaeth ag arfer gorau mewn perthynas â seiberddiogelwch ei mabwysiadu mewn manylebau system.
Mae tîm y rhaglen wedi cael cyngor arbenigol mewn perthynas â seiberddiogelwch ac mae’r fanyleb yn ystyried Cylchlythyr Iechyd Cymru (2017) 025 (mae’n amlinellu’r gofynion seiberddiogelwch sy’n ddisgwyliedig gan gyflenwyr) a Chanllawiau GIG Cymru: Gwasanaethau Cwmwl – a gyhoeddwyd gan Fwrdd Rheoli Gwybodeg GIG Cymru.
Mae cysyniadau datrysiadau cwmwl, gan gynnwys dulliau integreiddio gyda systemau data staff a chleifion GIG Cymru, wedi cael eu cyflwyno i Fwrdd Sicrwydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Bydd goruchwyliaeth gan broses sicrwydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn parhau yn ystod y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen.