Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau gweithredu llwyddiannus

Sicrhau gweithredu llwyddiannus

Mae nifer o ffrydiau gwaith wedi cael eu sefydlu er mwyn ystyried a gweithredu galluoedd technegol, sefydliadol a swyddogaethol y system newydd, ac er mwyn cwblhau gwaith i gynnal a gwella’r systemau DatixWeb sy’n cael eu defnyddio mewn sefydliadau ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael ei wella gyda ffrydiau gwaith ychwanegol trwy gydol y cyfnod datblygu, gweithredu a chyflwyno.

 

Cyf Pwnc Manylion
01 Rheoli Hawliadau

Sefydlu ffrwd waith weithredol graidd ar gyfer hawliadau ac achosion cyfreithiol sy’n cael eu dwyn yn erbyn corff iechyd.
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r ffrwd waith weithredol hon.
Llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer hawliadau

02 Rheoli Achosion Cyngor lechyd Cymuned

Ystyried llif gwaith, meysydd a sbardunau’r ffrwd waith sefydliadol sydd yn ofynnol mewn system rheoli achosion gyffredin ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned a chorff llais cyhoeddus y dyfodol. Gweithio gyda thîm y prosiect a RLDatix i bennu a yw’r ffrydiau gwaith gofynnol wedi’u treialu yn system Datix CloudIQ neu DatixWeb. Gweithredu swyddogaeth newydd y system.

03 Rheoli Cwynion

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer rheoli cwynion
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon
Llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer cwynion
Datblygu:

  • Set godau gyffredin ar gyfer categoreiddio cwynion
  • Canlyniadau proses ar gyfer categoreiddio cwynion
  • Set godau niwed ar gyfer categoreiddio cwynion
04 Rheoli Risg Corfforaethol Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer Cofrestrau Risg Corfforaethol a Fframweithiau Sicrwydd y Bwrdd. Pennu terminoleg Gymru Gyfan a llifau gwaith Cymru Gyfan ar gyfer swyddogaeth risg
05

Atgyfeiriadau i Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer cofnodi a rheoli achosion o Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Diffinio achosion y dylid eu cofnodi yn y system, meysydd y mae angen eu cofnodi a llif gwaith ar gyfer achosion cyffredin ac achosion cymhleth (gan gynnwys Y Llys Gwarchod)

06 Rheoli Achosion Cwestau

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer ymholiadau gan grwner a gwrandawiadau cwest yn ymwneud â’r corff iechyd.
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon, llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer achosion cwest

07 Monitro Deallus, Dangosfyrddau a Dadansoddi Data

Pennu adroddiadau system craidd a gaiff eu hymgorffori yn swyddogaeth y system graidd. Ystyried anghenion hyfforddi ar gyfer ymholi a llunio adroddiadau.

08 Offer Ymchwolio

Datblygu offer ymchwilio craidd yn system Datix CloudIQ a chynhyrchu deunyddiau hyfforddi a chyfeirio cysylltiedig.

09

Y broses Dysgu o Farwolaethau a’i chysylltiad â’r system Archwilio Meddygol

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer y broses Dysgu o Farwolaethau a sefydlu’r cysylltiadau rhwng y system Archwilio Meddygol.
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon, llifau gwaith Cymru gyfan, meysydd Cymru gyfan a sbardunau Cymru gyfan ar gyfer Adolygiadau o Farwolaethau

10

Cydymffurfio â’r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio

Rhoi cyngor ac arweiniad i Fwrdd y Rhaglen wrth sicrhau bod gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio yn cael eu hadnabod, eu cyfeirio atynt a’u cynnwys mewn swyddogaethau cysylltiedig.

11 Rheoli Achosion y Gwasanaeth Cyngor a Chysylltu Cleifion (PALS)

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer rhyngweithio PALS
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon, llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer PALS

12 Rheoli Achosion Gwneud Iawn

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer achosion gwneud iawn lle y gallai achosion fod wedi codi drwy gŵyn, digwyddiad neu fodd arall.
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon, gan ddechrau’r broses lle y caiff Rhan 6 o’r rheoliadau Gweithio i Wella ei rhoi ar waith. Sefydlu llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer achosion gwneud iawn.

13 Atgyfeiriadau i Gyrff Rheoleiddio

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer achosion a gaiff eu cyfeirio at gorff rheoleiddio
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon, llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer atgyfeiriadau i gyrff rheoleiddio

14 Diogelu

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer cofnodion o achosion diogelu
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon, llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer achosion diogelu
Ystyried swyddogaeth bosibl ar gyfer hysbysu awdurdodau lleol yn awtomatig am achosion

15 Porth Adrodd ar Ddigwyddiadau Difrifol

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer achosion yr adroddir arnynt i Lywodraeth Cymru
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon, llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer achosion o ddigwyddiadau difrifol

16 Porth Ad-dalu Cronfa Risg Cymru

Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer y broses ad-dalu rhwng cyrff iechyd a Chronfa Risg Cymru
Diffinio pa wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon, llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer ad-daliadau Cronfa Risg Cymru

17 Dysgu o Ddigwyddiadau Gofal

Cysoni dysgu, gwella a gweithgareddau diogelwch cleifion ledled GIG Cymru a sicrhau bod y system yn gallu casglu themâu a thueddiadau lleol a chenedlaethol

18 System Archwilio Meddygol GIG Cymru

Hwyluso’r gwaith o gyflwyno system er mwyn galluogi swyddogaethau ansawdd a thrafodaethol y tîm archwilio meddygol a chysylltu hyn â’r broses Dysgu o Farwolaethau mewn cyrff iechyd

ORG01 Llywodraethu Cynnwys a Diweddariadau

Sefydlu grŵp cenedlaethol a phroses gysylltiedig i roi trosolwg ac i sicrhau llywodraethu er mwyn gwneud yn siŵr bod datblygu cynnwys a diweddariadau yn cael eu rhaglennu yn effeithlon, wrth sicrhau y caiff swyddogaeth Gymru Gyfan ei diogelu ac y caiff arloesi a datblygu lleol eu cefnogi a’u cynllunio’n briodol.

ORG02 Casglu, Codio, Rheoli as Adrodd ar Ddigwyddiadau

Dechrau cynllunio’r swyddogaeth graidd ar gyfer rheoli digwyddiadau a datblygu diffiniad o ba wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon.

Sefydlu llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer digwyddiadau
Datblygu:

  • Set godau gyffredin ar gyfer categoreiddio digwyddiadau
  • Canlyniadau proses ar gyfer categoreiddio digwyddiadau
  • Set godau niwed ar gyfer categoreiddio digwyddiadau
ORG03 Trosglwyddo data o'r systemau Datix presennol

Ystyried posibiliadau a phrosesau angenrheidiol i gefnogi’r gwaith o drosglwyddo gwybodaeth rhwng DatixWeb a Datix CloudIQ. Sefydlu’r cynllun gwaith er mwyn trosglwyddo achosion byw hanfodol yn ystod y cyfnod pontio rhwng y systemau DatixWeb a Datix CloudIQ.

ORG04 Rhaglen hyfforddiant ar gyfer Arweinwyr Systemau Lleol

Ystyried rhaglen hyfforddiant a datblygu, gyda deunyddiau ategol, er mwyn rhoi sylfaen o wybodaeth a chymorth i gydweithwyr newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli yn y swydd hon.

ORG05 Cod Cysylltiad - Systemau GIG Cymru a RLDatix

Sicrhau y caiff trefniadau priodol eu gwneud er mwyn hwyluso mynediad gan staff ffrwd waith dechnegol a chymorth RLDatix at y systemau ar seilwaith TGCh GIG Cymru

TEC01 Active Directionary / ADFS / Cysylltiad a Mynediad at Wasanaethau Cwmwl Datblygu cyfarwyddiadau a phroses fanwl ar sut y bydd Arweinwyr Systemau Lleol a Gwasanaethau Cleientiaid Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a TGCh lleol yn cefnogi’r gwaith o weithredu AFDS fel y dull o ddilysu mynediad at y system Datix CloudIQ.
TEC02 Parhad Ffrwd Waith Swyddogaethol Datix RFI

Sefydlu proses sy’n sicrhau bod argaeledd y swyddogaeth RFI yn parhau yn systemau DatixWeb, lle y caiff ei defnyddio. Ystyried llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan gofynnol er mwyn ystyried datblygu’r swyddogaeth hon yn Datix Cloud IQ yn y dyfodol.

TEC03 Integreiddi â PAS ac ESR

Datblygu mapio prosesau manwl a gofynion sicrwydd er mwyn integreiddio â data GIG Cymru fel PAS ac ESR. Creu cysylltiadau â chydweithwyr allweddol o RLDatix a GIG Cymru i sicrhau y caiff integreiddio ei reoli a’i weithredu’n llawn.
Ystyried hefyd unrhyw opsiynau integreiddio eraill er mwyn eu datblygu yn y dyfodol.

TEC04

Cysylltu â System Rheoli Achosion LARS

Cynnig platfform rhwng timau sy’n datblygu systemau a sicrhau bod setiau data yn cyd-fynd (yr un fath lle bo hynny’n bosibl).