Mae nifer o ffrydiau gwaith wedi cael eu sefydlu er mwyn ystyried a gweithredu galluoedd technegol, sefydliadol a swyddogaethol y system newydd, ac er mwyn cwblhau gwaith i gynnal a gwella’r systemau DatixWeb sy’n cael eu defnyddio mewn sefydliadau ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cael ei wella gyda ffrydiau gwaith ychwanegol trwy gydol y cyfnod datblygu, gweithredu a chyflwyno.
Cyf | Pwnc | Manylion |
01 | Rheoli Hawliadau |
Sefydlu ffrwd waith weithredol graidd ar gyfer hawliadau ac achosion cyfreithiol sy’n cael eu dwyn yn erbyn corff iechyd. |
02 | Rheoli Achosion Cyngor lechyd Cymuned |
Ystyried llif gwaith, meysydd a sbardunau’r ffrwd waith sefydliadol sydd yn ofynnol mewn system rheoli achosion gyffredin ar gyfer Cyngor Iechyd Cymuned a chorff llais cyhoeddus y dyfodol. Gweithio gyda thîm y prosiect a RLDatix i bennu a yw’r ffrydiau gwaith gofynnol wedi’u treialu yn system Datix CloudIQ neu DatixWeb. Gweithredu swyddogaeth newydd y system. |
03 | Rheoli Cwynion |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer rheoli cwynion
|
04 | Rheoli Risg Corfforaethol | Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer Cofrestrau Risg Corfforaethol a Fframweithiau Sicrwydd y Bwrdd. Pennu terminoleg Gymru Gyfan a llifau gwaith Cymru Gyfan ar gyfer swyddogaeth risg |
05 |
Atgyfeiriadau i Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer cofnodi a rheoli achosion o Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Diffinio achosion y dylid eu cofnodi yn y system, meysydd y mae angen eu cofnodi a llif gwaith ar gyfer achosion cyffredin ac achosion cymhleth (gan gynnwys Y Llys Gwarchod) |
06 | Rheoli Achosion Cwestau |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer ymholiadau gan grwner a gwrandawiadau cwest yn ymwneud â’r corff iechyd. |
07 | Monitro Deallus, Dangosfyrddau a Dadansoddi Data |
Pennu adroddiadau system craidd a gaiff eu hymgorffori yn swyddogaeth y system graidd. Ystyried anghenion hyfforddi ar gyfer ymholi a llunio adroddiadau. |
08 | Offer Ymchwolio |
Datblygu offer ymchwilio craidd yn system Datix CloudIQ a chynhyrchu deunyddiau hyfforddi a chyfeirio cysylltiedig. |
09 |
Y broses Dysgu o Farwolaethau a’i chysylltiad â’r system Archwilio Meddygol |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer y broses Dysgu o Farwolaethau a sefydlu’r cysylltiadau rhwng y system Archwilio Meddygol. |
10 |
Cydymffurfio â’r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio |
Rhoi cyngor ac arweiniad i Fwrdd y Rhaglen wrth sicrhau bod gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio yn cael eu hadnabod, eu cyfeirio atynt a’u cynnwys mewn swyddogaethau cysylltiedig. |
11 | Rheoli Achosion y Gwasanaeth Cyngor a Chysylltu Cleifion (PALS) |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer rhyngweithio PALS |
12 | Rheoli Achosion Gwneud Iawn |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer achosion gwneud iawn lle y gallai achosion fod wedi codi drwy gŵyn, digwyddiad neu fodd arall. |
13 | Atgyfeiriadau i Gyrff Rheoleiddio |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer achosion a gaiff eu cyfeirio at gorff rheoleiddio |
14 | Diogelu |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer cofnodion o achosion diogelu |
15 | Porth Adrodd ar Ddigwyddiadau Difrifol |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer achosion yr adroddir arnynt i Lywodraeth Cymru |
16 | Porth Ad-dalu Cronfa Risg Cymru |
Sefydlu swyddogaeth graidd ar gyfer y broses ad-dalu rhwng cyrff iechyd a Chronfa Risg Cymru |
17 | Dysgu o Ddigwyddiadau Gofal |
Cysoni dysgu, gwella a gweithgareddau diogelwch cleifion ledled GIG Cymru a sicrhau bod y system yn gallu casglu themâu a thueddiadau lleol a chenedlaethol |
18 | System Archwilio Meddygol GIG Cymru |
Hwyluso’r gwaith o gyflwyno system er mwyn galluogi swyddogaethau ansawdd a thrafodaethol y tîm archwilio meddygol a chysylltu hyn â’r broses Dysgu o Farwolaethau mewn cyrff iechyd |
ORG01 | Llywodraethu Cynnwys a Diweddariadau |
Sefydlu grŵp cenedlaethol a phroses gysylltiedig i roi trosolwg ac i sicrhau llywodraethu er mwyn gwneud yn siŵr bod datblygu cynnwys a diweddariadau yn cael eu rhaglennu yn effeithlon, wrth sicrhau y caiff swyddogaeth Gymru Gyfan ei diogelu ac y caiff arloesi a datblygu lleol eu cefnogi a’u cynllunio’n briodol. |
ORG02 | Casglu, Codio, Rheoli as Adrodd ar Ddigwyddiadau |
Dechrau cynllunio’r swyddogaeth graidd ar gyfer rheoli digwyddiadau a datblygu diffiniad o ba wybodaeth a gaiff ei rheoli drwy’r swyddogaeth hon. Sefydlu llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan ar gyfer digwyddiadau
|
ORG03 | Trosglwyddo data o'r systemau Datix presennol |
Ystyried posibiliadau a phrosesau angenrheidiol i gefnogi’r gwaith o drosglwyddo gwybodaeth rhwng DatixWeb a Datix CloudIQ. Sefydlu’r cynllun gwaith er mwyn trosglwyddo achosion byw hanfodol yn ystod y cyfnod pontio rhwng y systemau DatixWeb a Datix CloudIQ. |
ORG04 | Rhaglen hyfforddiant ar gyfer Arweinwyr Systemau Lleol |
Ystyried rhaglen hyfforddiant a datblygu, gyda deunyddiau ategol, er mwyn rhoi sylfaen o wybodaeth a chymorth i gydweithwyr newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli yn y swydd hon. |
ORG05 | Cod Cysylltiad - Systemau GIG Cymru a RLDatix |
Sicrhau y caiff trefniadau priodol eu gwneud er mwyn hwyluso mynediad gan staff ffrwd waith dechnegol a chymorth RLDatix at y systemau ar seilwaith TGCh GIG Cymru |
TEC01 | Active Directionary / ADFS / Cysylltiad a Mynediad at Wasanaethau Cwmwl | Datblygu cyfarwyddiadau a phroses fanwl ar sut y bydd Arweinwyr Systemau Lleol a Gwasanaethau Cleientiaid Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a TGCh lleol yn cefnogi’r gwaith o weithredu AFDS fel y dull o ddilysu mynediad at y system Datix CloudIQ. |
TEC02 | Parhad Ffrwd Waith Swyddogaethol Datix RFI |
Sefydlu proses sy’n sicrhau bod argaeledd y swyddogaeth RFI yn parhau yn systemau DatixWeb, lle y caiff ei defnyddio. Ystyried llifau gwaith Cymru Gyfan, meysydd Cymru Gyfan a sbardunau Cymru Gyfan gofynnol er mwyn ystyried datblygu’r swyddogaeth hon yn Datix Cloud IQ yn y dyfodol. |
TEC03 | Integreiddi â PAS ac ESR |
Datblygu mapio prosesau manwl a gofynion sicrwydd er mwyn integreiddio â data GIG Cymru fel PAS ac ESR. Creu cysylltiadau â chydweithwyr allweddol o RLDatix a GIG Cymru i sicrhau y caiff integreiddio ei reoli a’i weithredu’n llawn. |
TEC04 |
Cysylltu â System Rheoli Achosion LARS |
Cynnig platfform rhwng timau sy’n datblygu systemau a sicrhau bod setiau data yn cyd-fynd (yr un fath lle bo hynny’n bosibl). |