Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn adlewyrchu ymrwymiad y llywodraeth i hyrwyddo mwy o ddidwylledd gan awdurdodau cyhoeddus. Bwriad y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yw sicrhau bod pob awdurdod cyhoeddus, gan gynnwys y GIG, yn agored ac yn dryloyw gan sicrhau bod mwy o wybodaeth amdanynt ar gael yn rhwydd. I’r diben hwn, mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn darparu mynediad cyhoeddus i wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus.