Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Archwilio a Sicrwydd
Penodwyd Simon Cookson yn dilyn proses recriwtio gystadleuol allanol a chyfweliad gan banel a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr ein rhanddeiliaid.
Bu Simon yn Gyfarwyddwr gyda PwC rhwng 2005 a 2013, ac yn fwy diweddar mae wedi bod yn darparu gwasanaethau archwilio a chynghori i Daleithiau Jersey, yn ogystal â chynorthwyo Gwasanaethau Archwilio a Sicrwydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ddatblygu protocol cynghori a fframwaith sicrwydd ansawdd mewn ymateb i argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae Simon yn aelod cyswllt o’r IIA a thra roedd yn gweithio i PwC roedd yn Bennaeth Archwilio Mewnol dros 15 o sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ogystal ag arweinydd cyd-adnoddau i eraill. Fe’i penodwyd yn archwiliwr Llywodraeth Leol, Addysg Bellach a chyrff Iechyd a chynhaliodd nifer o asesiadau ariannol ar gyfer y Monitor Rheoleiddio Iechyd a oedd yn cwmpasu darpar Ymddiriedolaethau Sefydledig, pryniannau gwasanaeth mawr a methiannau llywodraethu corfforaethol.
Fel aelod cymwys o CIPFA mae gyrfa broffesiynnol Simon wedi cynnwys gweithio fel archwiliwr a rheolwr perthynas penodedig gyda’r Comisiwm Archwilio lle yr arweiniodd ystod o archwiliadau’r GIG yn y meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd, ac mewn awdurdodau iechyd strategol.
Mae gan Simon gysylltiadau lleol gan ei fod yn hanu o Gasnewydd ac mae’n briod a chanddo ddau o blant bach.