Neidio i'r prif gynnwy

Bahar Chowdhury

Bahar Chowdhury

Enillodd Bahar ei radd yn y Gyfraith yn ei dref enedigol Abertawe a chwblhaodd Gwrs Ymarfer y Gyfraith yng Nghaerdydd.

Cychwynnodd ei yrfa yn y gyfraith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel Paragyfreithiwr, gan ennill profiad mewn anafiadau personol ac esgeulustod clinigol. Yn dilyn ei ddyrchafiad i’w rôl bresennol fel Swyddog Cyfreithiol, mae Bahar bellach yn ymdrin yn bennaf â hawliadau gwneud iawn o dan y rheoliadau gwneud iawn.

Ar hyn o bryd, mae Bahar hefyd yn Ymgynghorydd Diogelwch a Dysgu ar gyfer Cronfa Risg Cymru. Mae’r rôl hon yn cynnwys adolygu a chynghori ar yr achosion gwneud iawn a gyflwynir gan fyrddau iechyd ledled Cymru.

Yn ei amser hamdden, mae Bahar yn mwynhau chwarae a gwylio pêl-droed, yn ogystal â hyfforddi ei dîm pêl-droed dan 15 lleol.

 

Cyswllt


E-bost: Bahar.Chowdhury@wales.nhs.uk