Neidio i'r prif gynnwy

John Atkins

Photo Container

Mae John yn glinigydd, addysgwr a rheolwr gofal iechyd profiadol.  Bu’n gweithio i Wasanaeth Ambiwlans ac Achub Guernsey am nifer o flynyddoedd - ar y rheng flaen fel Parafeddyg Cofrestredig, fel Tiwtor a Mentor, ac fel Swyddog Ambiwlans, gan ddringo’r rhengoedd i fod yn Brif Swyddog Ambiwlans Cynorthwyol.  Yn ddiweddarach, gweithiodd i Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Guernsey fel Hyfforddwr Sgiliau Clinigol, Swyddog Dadebru a Rheolwr Gwella Ansawdd.  

Symudodd gyda’i deulu i’r DU yn 2016 ac mae bellach yn rheoli darpariaeth Gwasanaethau Meddygol yn Silverstone Circuit yn Swydd Northampton wrth gynnal ei ymarfer clinigol fel parafeddyg banc gyda Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Canolbarth Lloegr.  Yn ogystal, mae’n ymgymryd â gwaith ymgynghorol cynllunio parhad busnes a chynllunio ar gyfer argyfwng ar sail llawrydd ac mae’n gweithio i Gronfa Risg Cymru fel Prif Ymgynghorydd Diogelwch a Dysgu.