Neidio i'r prif gynnwy

John Hurst

John Hurst

Graddiodd John mewn Addysg ym Mhrifysgol Surrey. Cychwynnodd ei yrfa mewn rheoli risg yn y diwydiant adloniant gyda rheoli digwyddiadau dan do ac yn yr awyr agored i grwpiau megis Pet Shop Boys, Dizzy Rascal ac ati.

Symudodd ymlaen i Reoli Risg ar gyfer yr heddlu cyn symud at ofal iechyd yn ei rôl fel Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Risg ar gyfer adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Guernsey.

Ar hyn o bryd, mae John hefyd yn Ymgynghorydd Diogelwch a Dysgu ar gyfer Cronfa Risg Cymru.

Mae’n ymarferydd dosbarth profiadol ar gyfer pynciau iechyd a diogelwch, gofal iechyd, diogelwch, gorfodi’r gyfraith a phynciau rheoli. Yn dilyn archwiliad diweddar, cafodd ei ddisgrifio fel ‘eithriadol’.

Mae’n wybodus wrth gymhwyso ystod amrywiol o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mae’n weithiwr proffesiynol diogelwch cydnabyddedig ac yn brofiadol wrth roi arweiniad ym meysydd Gofal Iechyd, Manwerthu, Diogelwch, Logisteg, Gwasanaethau Cyhoeddus ac amgylcheddau Addysg. Mae’n adnabyddus am ddarparu datrysiadau realistig i faterion iechyd a diogelwch.

Mae’n ddadansoddwr cwricwlwm ac anghenion hyfforddi profiadol â chefndir cryf mewn mentora cydweithwyr ym maes addysg.

Mae’n rheolwr llinell uchel ei barch sydd â phrofiad o weithio ar lefel strategol, a arferai eistedd ar grwpiau llywio cenedlaethol ar gyfer gweithredu iechyd a diogelwch mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Gweithredu egwyddorion rheoli risg mewn amgylcheddau diogelwch a logisteg mewn Addysg Uwch.

Arwain y gwaith o gyflwyno diwylliant diogelwch cadarnhaol mewn gwasanaeth heddlu sirol.

Arwain y gwaith o gynllunio a rheoli rhaglen hyfforddi diogelwch ar raddfa fawr ar gyfer gwasanaeth yr heddlu.

Cyflenwi rhaglenni iechyd a diogelwch pwrpasol sydd wedi’u pecynnu’n rheolaidd.

Yn ei amser hamdden, mae John yn mwynhau cefnogi ei dîm pêl-droed lleol.

 

Cyswllt


E-bost: John.Hurst@wales.nhs.uk