Mae Liz Baines wedi bod yn Brif Gynghorydd Diogelwch a Dysgu gyda Chronfa Risg Cymru ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ers 2020. Yn y rôl hon, mae Liz yn canolbwyntio ar y Rhaglen Cydsynio i Archwiliad a Gwella Triniaeth a hi yw arweinydd llif gwaith y System Adolygu Dysgu o Farwolaethau sy'n rhan o Raglen Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru.
Cyn ymuno â Chronfa Risg Cymru, mwynhaodd Liz dros 30 mlynedd o yrfa nyrsio mewn amrywiaeth o rolau clinigol gan gynnwys pymtheng mlynedd fel Nyrs Arbenigwr mewn Cwnsela Genetig, hefyd yn Nyrs Arbenigwr Thromboproffylacsis a rolau Nyrs Staff mewn lleoliadau acíwt a chymunedol. Yn fwy diweddar mae Liz hefyd wedi cyfrannu at yr ymdrech i frwydro pandemig Covid-19 trwy weithio fel brechwr.
Yn 2005 dechreuodd Liz ei thaith diogelwch cleifion gan ddod yn Gydlynydd Diogelwch Cleifion ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych, un o'r 4 safle peilot yn y DU ar gyfer Menter Cleifion Mwy Diogel y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI). Ers hynny, mae Liz wedi cyflawni nifer o rolau diogelwch cleifion cenedlaethol gan gynnwys Rheolwr Diogelwch Cleifion gydag Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion (NPSA), Rheolwr Rhaglen gyda'r Ymgyrch 1000 o Fywydau a Rheolwr Ansawdd a Diogelwch gydag Uned Gyflawni'r GIG.
Mae Liz hefyd wedi gweithio i Brifysgol Caerdydd fel Uwch Reolwr Prosiect ar astudiaeth ymchwil genedlaethol i fesur niwed ac mae'n gydawdur yr adroddiad 'Measuring harm and informing quality improvement in the Welsh NHS: the longitudinal Welsh national adverse events study'.
Mae Liz yn gweithio yng Ngogledd Cymru yn Nhŷ Alder PCGC. Pan nad yw’n gweithio, mae’n mwynhau cymdeithasu, cerdded, a threulio amser gyda’i theulu o bobl ac anifeiliaid.