Neidio i'r prif gynnwy

Jonathan Webb

Jonathan Webb

Mae Jonathan yn gweithio i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae’n Barafeddyg Cofrestredig, yn Fentor Clinigol profiadol ac mae wedi gweithio i’r GIG ers 1990.

Ar ôl graddio mewn Addysg o Brifysgol Wolverhampton ac astudio Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Henley, Prifysgol Reading, aeth Jonathan ati i gwblhau gradd Meistr mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol ym Mhrifysgol Loughborough.

Mae Jonathan yn aelod o banel Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac mae’n Ymarferydd Iechyd a Diogelwch Siartredig. Mae’n cwblhau adolygiadau arbenigol o’r gweithle ar gyfer staff y mae angen addasiadau arnynt ac mae’n arbenigwr mewn arolygu asbestos a chynllunio i gael gwared arno.

Yn Bartner â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, mae Jonathan yn cwblhau asesiadau o gofrestriadau ac yn adolygu proffiliau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig.

Cyn ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2016, bu Jonathan yn Bennaeth Rheoli Risg mewn Ymddiriedolaeth Acíwt yn Lloegr. Mae wedi cyflawni rôl debyg yn Guernsey ynghynt, lle bu’n gyfrifol am gydlynu Rhaglen Sicrwydd a Chofrestr Risg ledled y dalaith. Mae wedi cyflawni rôl gyda manwerthwr cenedlaethol hefyd, gan ganolbwyntio ar reoli risg yn yr ystafell bwrdd.

Mae Jonathan yn Barafeddyg yn Silverstone Circuit ac mae’n darparu gwasanaethau ymateb meddygol mewn digwyddiadau chwaraeon.

 

Cyswllt