Neidio i'r prif gynnwy

Maria Stolzenberg

Maria Stolzenberg

Mae Maria wedi gweithio yn GIG Cymru am 16 mlynedd a chyn symud i Gronfa Risg Cymru roedd yn Ddirprwy Bennaeth Risg a Sicrwydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Penodwyd Maria gan Lywodraeth Cymru fel y Cydlynydd Cenedlaethol a Phrif Arweinydd System ar gyfer y System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru.

Gyda phrofiad helaeth o gyflunio a datblygu rheoli risg, gofal cleifion a meddalwedd profiad defnyddwyr gwasanaeth i hyrwyddo dysgu a gwella, mae Maria yn gyfrifol am sicrhau y bydd y meysydd a’r llif gwaith ar gyfer y system newydd yn hwyluso adrodd ar draws gwasanaethau acíwt, iechyd meddwl, cymunedol, gofal sylfaenol ac annibynnol ar draws GIG Cymru.

Yn dilyn arwain ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ymyriadau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a chefnogi’r Cyfarwyddwr Llywodraethu i sicrhau bod y fframwaith sicrwydd risg yn cael ei ddiweddaru a’i gyfathrebu, mae Maria’n brofiadol wrth reoli anghenion timau strategol a gweithredol.

Gyda phortffolio cyfrifoldeb prysur, mae Maria yn mwynhau ei hamser y tu allan i'r gwaith yn treulio amser gyda'i theulu ac yn cefnogi ei phlant trwy'r brifysgol.

 

Cyswllt


E-bost: Maria.Stolzenberg@wales.nhs.uk