Mae sefydliadau GIG Cymru wedi eu hatal rhag caffael yswiriant masnachol ar gyfer eu gweithgareddau oni bai am eithriadau cyfyngedig iawn sy’n berthnasol yng Nghymru yn unig. Mae Cronfa Risg Cymru ar hyn o bryd yn galluogi i bob Ymddiriedolaeth ac Awdurdod Iechyd gyllido eu perygl o bob risg, fel atebolrwydd cyflogwyr a thrydydd parti, gan gynnwys esgeulustod clinigol.