Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Chyfrifon Taladwy

man using a calculator
Mae gan adran Cyfrifon Taladwy ddau safle, y naill yn  Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd a’r llall yn Nhŷ Alder yn y Gogledd. Mae’r tabl isod yn dangos manylion y sefydliadau iechyd mae’n eu gwasanaethu. 
 
Tîm Cyfrifon Taladwy Y sefydliadau iechyd a wasanaethir
Tŷ’r Cwmnïau
  • Prifysgol Bae Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru
  • Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Tŷ Alder
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae gan y gwasanaeth dros 100 o staff sy’n talu anfonebau, ac maent yn prosesu rhyw 1.5 miliwn o anfonebau bob blwyddyn sydd gyda’i gilydd â gwerth blynyddol o fwy na £3 biliwn, a hynny ar gyfer tua 30,000 o gyflenwyr.

Caiff tua 90% o’r anfonebau eu prosesu’n electronig ac mae menter i gynyddu hyn i 95%. Mae gan y mwyafrif o anfonebau archeb prynu. Cyflwynwyd polisi Dim Archeb Prynu Dim Tâl yn GIG Cymru ar 1 Mehefin 2018. Mae rhestr gytunedig o eithriadau, a chaiff yr anfonebau hyn eu cymeradwyo a’u prosesu’n uniongyrchol trwy Oracle heb fod angen codi archeb prynu.

Mae’n rhaid i’r gwasanaeth geisio cyrraedd targed statudol y Llywodraeth o dalu 95% o anfonebau cyflenwyr cyn pen 30 diwrnod.