Neidio i'r prif gynnwy

Caffael Rheng Flaen

frontline Procurement

Mae Partneriaid Busnes Caffael Lleol wedi eu lleoli yn y Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ac maent yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni Cynllun Tymor Canolig Integredig y Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, caffael nwyddau a gwasanaethau a helpu sefydliadau i gydymffurfio. Mae timau lleol hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen gyfalaf.

 

Mae’r timau yn weladwy ac yn y rheng flaen, ac maent yn gyfrifol am gysylltu o ddydd i ddydd â Grwpiau Gofal Iechyd Proffesiynol. Maent yn sicrhau bod prosesau a gweithdrefnau allweddol ar waith fel bod yr ansawdd, y pris, y ffynhonnell, y maint a’r amseru oll yn iawn.

 

Prynu

Mae Timau Prynu ymhob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth. Maent yn gyfrifol am dderbyn a gwneud archebion o ffynonellau cyllid Refeniw a Gwaddoliad yn bennaf (ac o gyfalaf cyfyngedig), ac am nwyddau a gwasanaethau nad ydynt wedi eu cynnwys yn eu catalogau unigol.

 

Un o rolau allweddol y Timau Prynu yw lleihau nifer y ceisiadau a wneir am eitemau nad ydynt yn y catalog. Maent yn gwneud hyn trwy reoli’r galw yn rhagweithiol, lle mae angen dadansoddi’r galw presennol a hanesyddol gan ddylanwadu ar gost a lleihau gwariant i’w cwsmeriaid. Mae Timau Prynu yn cysylltu â’u cwsmeriaid a’u defnyddwyr o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau y caiff nwyddau a gwasanaethau eu darparu yn unol â disgwyliadau a gofynion, ac yn delio ag unrhyw broblemau.

 

Timau Caffael Rheng Flaen

 
  • Prifysgol Bae Abertawe 
  • Aneurin Bevan
  • Betsi Cadwaladr/ Ymddiriedaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru / Powys
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Cwm Taf Morgannwg University Health Board 
  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda
  • Felindre / Iechyd Cyhoeddus Cymru / Gwasanaeth Gwaed Cymru