I wneud cais am Drwydded Noddi bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio. Mae'r ffi yn dibynnu ar y math o drwydded yr ydych yn gwneud cais amdani a pha fath o sefydliad ydych chi.
Mae manylion llawn Ffioedd Trwyddedi i'w gweld yma.
Ar ôl i Drwydded Noddi gael ei chymeradwyo, gallwch ddarparu CoS i Weithiwr Medrus. Cost CoS yw £199 ac mae'n daladwy am bob CoS a neilltuir.
Yn ogystal â'r costau CoS, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tâl ychwanegol pan fyddwch yn aseinio CoS, gelwir hyn yn 'dâl sgiliau mewnfudo'.
Mae rhai eithriadau i'r tâl hwn. Mae manylion llawn gan gynnwys y costau i'w gweld yma.
Byddai angen i'r rhai sy'n gwneud cais am Drwydded Noddi sicrhau bod cerdyn talu ar gael i dalu ffi'r Drwydded ac unrhyw gostau noddi unigol.
Yng Nghymru, mae cymorth gan Bractis Meddyg Teulu ar gyfer Nawdd Gweithwyr Medrus, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2022, yn cael ei gefnogi a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn ad-dalu ffioedd y Swyddfa Gartref i Bractisiau Meddygon Teulu:
Ffioedd Trwyddedi
Ffi Trwydded Practis Meddyg Teulu (taliad untro - Practis Bach) |
£536 |
Ffi Trwydded Practis Meddyg Teulu (taliad untro - Practis Mawr) |
£1,476 |
Ffioedd Noddi
Ffi Tystysgrif Nawdd Meddyg Teulu (fesul Meddyg Teulu) |
£199 |
Tâl Sgiliau Mewnfudo (fesul Meddyg Teulu, y flwyddyn - Practis Bach) |
£364 |
Tâl Sgiliau Mewnfudo (fesul Meddyg Teulu, y flwyddyn - Practis Mawr) |
£1000 |
|
|
Cyfanswm y ffioedd noddi fesul noddwr (fesul Meddyg Teulu, y flwyddyn - Noddwr Bach) |
£563 |
Cyfanswm y ffioedd noddi fesul noddwr (fesul Meddyg Teulu, y flwyddyn - Noddwr Mawr) |
£1199 |
Ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref ar gyfer trwydded, gall Practis Meddyg Teulu ofyn am ad-daliad o ffioedd Trwydded y Swyddfa Gartref trwy anfonebu Cyllid PCGC. Dylai hyn gadarnhau'r ffioedd a dalwyd ac enw'r unigolyn sy'n derbyn Nawdd. Dylid nodi ‘At Sylw Gwasanaethau Cyflogaeth PCGC’ ar bob anfoneb.
Gellir gwneud cais am ad-daliad i Cyllid PCGC drwy’r Gwasanaeth Cyfrifon Taladwy. Bydd practisiau yn gymwys i hawlio ad-daliad o ffioedd ôl-weithredol y Swyddfa Gartref o 1 Ebrill 2021.