Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth i Bractisiau Meddygon Teulu ar gyfer Tystysgrif Nawdd i Weithiwr Medrus

 

COS welsh Icon

Mae Tystysgrif Nawdd (CoS) yn cadarnhau manylion ymgeisydd a'r swydd y mae ef/hi wedi gwneud cais amdani. Os nad yw ymgeisydd yn 'weithiwr sefydlog' neu os nad oes ganddo’r caniatâd mewnfudo priodol i weithio yn y DU, mae angen ei noddi os yw’n dymuno cael ei gyflogi gan Bractis Meddyg Teulu yng Nghymru. Os ydych yn Bractis Meddyg Teulu ac yn dymuno cyflogi unigolyn sydd angen Fisa Gweithiwr Medrus i weithio yn y DU, bydd angen i chi gael Trwydded Noddi gan y Swyddfa Gartref.

 

Gwybodaeth i Bractisiau Meddygon Teulu:

Mae'r ddolen hon yn amlinellu proses y Swyddfa Gartref o ddod yn Noddwr ac yn rhoi trosolwg o'r costau a'r cyfrifoldebau cysylltiedig.

Y pwyntiau allweddol a amlygwyd yn y canllawiau yw:

I wneud cais am Drwydded Noddi bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio. Mae'r ffi yn dibynnu ar y math o drwydded yr ydych yn gwneud cais amdani a pha fath o sefydliad ydych chi.

Mae manylion llawn Ffioedd Trwyddedi i'w gweld yma.

Ar ôl i Drwydded Noddi gael ei chymeradwyo, gallwch ddarparu CoS i Weithiwr Medrus. Cost CoS yw £199 ac mae'n daladwy am bob CoS a neilltuir.

Yn ogystal â'r costau CoS, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tâl ychwanegol pan fyddwch yn aseinio CoS, gelwir hyn yn 'dâl sgiliau mewnfudo'.

Mae rhai eithriadau i'r tâl hwn. Mae manylion llawn gan gynnwys y costau i'w gweld yma.

Byddai angen i'r rhai sy'n gwneud cais am Drwydded Noddi sicrhau bod cerdyn talu ar gael i dalu ffi'r Drwydded ac unrhyw gostau noddi unigol.

Yng Nghymru, mae cymorth gan Bractis Meddyg Teulu ar gyfer Nawdd Gweithwyr Medrus, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2022, yn cael ei gefnogi a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.  Mae hyn yn ad-dalu ffioedd y Swyddfa Gartref i Bractisiau Meddygon Teulu:

 

Ffioedd Trwyddedi

Ffi Trwydded Practis Meddyg Teulu

(taliad untro - Practis Bach)

£536

Ffi Trwydded Practis Meddyg Teulu

(taliad untro - Practis Mawr)

£1,476

 

Ffioedd Noddi

Ffi Tystysgrif Nawdd Meddyg Teulu

(fesul Meddyg Teulu)

£199

Tâl Sgiliau Mewnfudo (fesul Meddyg Teulu, y flwyddyn - Practis Bach)

£364

Tâl Sgiliau Mewnfudo (fesul Meddyg Teulu, y flwyddyn - Practis Mawr)

£1000

 

Cyfanswm y ffioedd noddi fesul noddwr

(fesul Meddyg Teulu, y flwyddyn - Noddwr Bach)

£563

Cyfanswm y ffioedd noddi fesul noddwr

(fesul Meddyg Teulu, y flwyddyn - Noddwr Mawr)

£1199

 

Ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref ar gyfer trwydded, gall Practis Meddyg Teulu ofyn am ad-daliad o ffioedd Trwydded y Swyddfa Gartref trwy anfonebu Cyllid PCGC. Dylai hyn gadarnhau'r ffioedd a dalwyd ac enw'r unigolyn sy'n derbyn Nawdd.  Dylid nodi ‘At Sylw Gwasanaethau Cyflogaeth PCGC’ ar bob anfoneb.

Gellir gwneud cais am ad-daliad i Cyllid PCGC drwy’r Gwasanaeth Cyfrifon Taladwy. Bydd practisiau yn gymwys i hawlio ad-daliad o ffioedd ôl-weithredol y Swyddfa Gartref o 1 Ebrill 2021.

Mae angen i chi wneud cais ar-lein am eich trwydded, trwy'r ddolen hon.

Bydd angen i chi ddarparu dogfennau ategol a'r daflen gyflwyno wrth gyflwyno'ch cais, a amlinellir yma.

Bydd angen i chi enwebu aelodau allweddol o staff yn eich Practis a fydd â chyfrifoldebau penodol. Mae gwybodaeth i'w chael yma.

Ymdrinnir â'r rhan fwyaf o geisiadau o fewn llai nag 8 wythnos. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu £500 ychwanegol i gael penderfyniad o fewn 10 diwrnod gwaith. Byddwch yn cael gwybod sut i ofyn am benderfyniad cyflymach ar ôl i chi wneud cais.

Mae cyfrifoldebau wrth ddod yn Noddwr. Mae manylion llawn i'w gweld yma. Fel Noddwr Gweithiwr Medrus, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • gwirio bod gan eich gweithwyr tramor y sgiliau, cymwysterau, neu achrediadau proffesiynol angenrheidiol i wneud eu swyddi, a chadw copïau o ddogfennau sy'n dangos hyn
  • aseinio tystysgrifau nawdd i weithwyr dim ond pan fo'r swydd yn addas ar gyfer nawdd
  • dweud wrth Wasanaeth Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) os nad yw eich gweithwyr noddedig yn cydymffurfio ag amodau eu fisa

Gall eich trwydded gael ei hisraddio, ei hatal neu ei thynnu'n ôl os nad ydych yn cyflawni'r cyfrifoldebau hyn.

Darllenyr arweiniad llawn ar ofynion a dyletswyddau noddwyr a gwirio bod gan weithwyr yr hawl i weithio yn y DU.