Ymgymhwysodd Chris yn gyfreithiwr ym 1980. Enillodd ei LLB o Brifysgol Southampton, aeth i Goleg y Gyfraith yn Guildford a chwblhaodd ei hyfforddiant fel cyfreithiwr yng Nghaerdydd.
Ar ôl gweithio am gyfnod yng ngwasanaeth y llysoedd yn Hampshire ar ôl ymgymhwyso, dychwelodd Chris i Gaerdydd yn 1987 ac ymunodd â chwmni Cartwright, Adams a Black. Daeth yn bartner yn y cwmni hwnnw ym 1990. Pan gyfunodd y cwmni hwnnw â MLM yn 2007, cafodd Chris swydd fel Uwch Gyfreithiwr Cyswllt tan fis Gorffennaf 2015. Tra oedd yn MLM Cartwright, cynrychiolodd Chris nifer o sefydliadau yn y GIG a rhoddodd gyngor iddynt am faterion cyflogaeth. Ar ôl cymryd egwyl fer o’r gwaith yn 2015, ymunodd Chris â’r Tîm Cyflogaeth yn 2017 fel uwch gyfreithiwr rhan amser.
Yn ystod ei yrfa mae Chris wedi arbenigo mewn cyfraith cyflogaeth gynhennus a digynnen ill dwy. Mae profiad helaeth Chris yn cwmpasu amrywiaeth eang o faterion ym maes cyfraith cyflogaeth. Mae’n cynnwys y canlynol: diswyddo annheg ac anghyfiawn, colli gwaith, hawliadau gwahaniaethu o bob math, achosion disgyblu gan gynnwys ailstrwythuro lefel uchel ac ailstrwythuro ar lefel bwrdd, hawliadau contract, cytundebau setlo, cyfamodau cyfyngu a materion cyfrinachedd, materion yn ymwneud â’r Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth), atebolrwydd dirprwyol, chwythu’r chwiban, y rheoliadau amser gweithio, statws cyflogaeth, cydraddoldeb a chyflogau cydradd, a drafftio polisïau mewnol, cytundebau gwahaniaeth a materion tebyg.
Mae Chris yn eiriolwr profiadol, ac mae wedi ymddangos gerbron nifer o gyrff barnwrol. Ym maes cyflogaeth, mae Chris wedi ymddangos gerbron Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth.
Yn ystod ei yrfa hirfaith mae Chris hefyd wedi bod yn Glerc i Gomisiynwyr Cyffredinol Treth Incwm ar gyfer Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ac yn erlynydd ar gyfer y Post Brenhinol a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, fel y’i gelwir erbyn hyn. Mae hefyd wedi ymddangos mewn ymchwiliadau cyhoeddus gerbron y Comisiynwyr Traffig ac mewn cwestau ac achosion disgyblu gerbron Byrddau Ymwelwyr ar ran Cyfreithiwr y Trysorlys.
Yn ei amser hamdden mae Chris yn mwynhau darllen, cerddoriaeth a cherdded.