Neidio i'r prif gynnwy

Sioned Eurig

Mae Sioned yn arwain Tîm Cyflogaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.

Mae Sioned wedi bod yn gweithio fel cyfreithiwr cyflogaeth arbenigol y GIG ers mis Awst 2012. Mae hi'n cynghori cleientiaid adnoddau dynol ar bob agwedd ar gyfraith cyflogaeth a gwahaniaethu dadleuol ac annadleuol. Mae gan Sioned ddiddordeb arbennig mewn materion diswyddo annheg a chwythu'r chwiban ac mae'n mwynhau rhoi cyngor i bobl am y materion hyn.

Bu Sioned yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a symudodd i Gaerdydd i ddilyn y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol. Cwympodd Sioned mewn cariad â chyfraith cyflogaeth wrth wneud y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a datblygodd y diddordeb hwn ymhellach wrth iddi hyfforddi i fod yn gyfreithiwr.

Mae Sioned yn arbenigo ym mhob agwedd ar gyfraith cyflogaeth ac mae ganddi brofiad helaeth o gynghori ar amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar weithlu'r GIG gan gynnwys:

•  Materion yn ymwneud â gwahaniaethu;

•  Chwythu'r chwiban

•  Gweithdrefnau disgyblu proffesiynol (gan gynnwys darparu hyfforddiant ar UPSW);

•  Drafftio a rhoi cyngor ar bolisïau Cymru Gyfan;

•  Materion yn ymwneud â chontractau;

•  Amddiffyn hawliadau Tribiwnlys;

 

Mae Sioned yn aelod o Bwyllgor HPMA Cymru, yn trefnu digwyddiadau hyfforddi amrywiol ar gyfer gweithlu GIG Cymru (y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol). 

Mae Sioned yn briod ac mae ganddi ddwy ferch ifanc sy'n ei chadw'n brysur iawn. Mae hi'n dal i geisio creu’r cydbwysedd delfrydol rhwng bywyd a gwaith ond mae'n mwynhau jyglo ei blaenoriaethau ar hyn o bryd. Mae hi'n mwynhau mynd ar wyliau gyda'i theulu a'i ffrindiau ac mae'n chwaraewr pêl-rwyd brwd.

 


LinkedinGweld Proffil