Neidio i'r prif gynnwy

Lorrelee Traynor

Ymgymhwysodd Lorrelee yn gyfreithiwr yn 2013.

Bu Lorrelee yn gweithio mewn practis preifat yn Irwin Mitchell LLP yn Sheffield cyn symud i Fryste i hyfforddi’n fewnol yn y Grŵp DAS. Ymgymhwysodd Lorrelee i’r tîm cyflogaeth ac, wedi hynny, mae wedi treulio nifer o flynyddoedd yn cynghori cleientiaid yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus ar ystod eang o faterion ym maes cyfraith cyflogaeth cynhennus a digynnen a materion adnoddau dynol.

Ymunodd Lorrelee â’r Tîm Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2018 yn gyfreithiwr cyflogaeth arbenigol, gan gynghori ar holl feysydd cyfraith cyflogaeth, materion cysylltiadau cyflogai sy’n effeithio ar weithlu’r GIG ac ymgyfreitha tribiwnlys cyflogaeth.

Y tu allan i oriau gwaith, mae Lorrelee yn mwynhau marchogaeth ceffylau ac yn frwd am deithio, ac mae byth a hefyd yn cynllunio ei thaith nesaf.