Neidio i'r prif gynnwy

Gemma Griffiths

Ymgymhwysodd Gemma yn gyfreithiwr yn 2009 ar ôl symud i Gaerdydd ac ymgymryd â Chwrs Ymarfer y Gyfraith, a gwblhaodd yn 2006. Enillodd radd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith o Brifysgol Caerlŷr yn 2003.

 

Hyfforddodd Gemma gyda Phartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) Berry Smith yng Nghaerdydd cyn ymuno â PAC Bevan Brittan ym Mryste yn 2011. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn cynghori cleientiaid o’r sector gyhoeddus a’r sector breifat ill dwy am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chyfraith cyflogaeth gynhennus a digynnen, ac adnoddau dynol. Roedd ei gwaith yn ymwneud yn bennaf â chynghori a chefnogi sefydliadau’r GIG mewn anghydfodau cymhleth â gweithwyr ac wrth ymgyfreitha yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.

Ymunodd Gemma â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2017 fel Cyfreithiwr arbenigol ym maes Cyfraith Cyflogaeth, ac mae’n cynghori ar bob agwedd ar Gyfraith Cyflogaeth a chysylltiadau rhwng gweithwyr a’u cyflogwyr sy’n effeithio ar weithlu’r GIG. Mae hyn yn cynnwys:

  • Ymdrin ag achosion yn y Tribiwnlys Cyflogaeth;
  • Cynnal trafodaethau setlo a chwblhau’r ddogfennaeth gysylltiedig;
  • Disgyblu, cwynion, materion yn ymwneud ag Urddas yn y Gwaith, perfformiad a rheoli absenoldebau salwch;
  • Materion yn ymwneud â gwahaniaethu;
  • Chwythu'r chwiban;
  • Gweithredu Polisïau a Gweithdrefnau Cymru Gyfan ac ymarfer gorau cyffredinol ym maes Adnoddau Dynol;
  • Materion yn ymwneud â chontractau
  • Darparu hyfforddiant ym maes y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol am amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â Chyfraith Cyflogaeth.