Daeth Clare yn Gyfreithiwr cymwys yn 1986.
Cafodd Clare radd BA (Anrh) yn Hanes Rwsia o Brifysgol Llundain, cyn sefyll arholiadau terfynol Cymdeithas y Gyfraith yng Ngholeg y Gyfraith.
Mae ganddi LLM mewn Cyfraith Cyflogaeth/Hawliau Dynol ac Ewropeaidd o Brifysgol Bryste, ac mae ganddi Dystysgrif Addysg Raddedig (TAR) i ddysgu oedolion.
Mae hi wedi cynghori ac ymarfer yn eang ym meysydd cyfraith fasnachol a chyflogaeth, yn cynnwys diswyddo annheg, Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth), gwahaniaethu (yn enwedig gwahaniaethu ar sail rhyw neu anabledd), cyfraith cytundebau a chwythu’r chwiban. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar ran hawlwyr ac ymatebwyr yn y gorffennol, gydag achosion llwyddiannus a rhai nodedig eraill.
Ymunodd â’r Tîm Cyflogaeth yn 2012, lle bu’n gweithredu ar ran yr holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru, gan ymdrin ag ymholiadau ymarferol o ddydd i ddydd, materion cymhleth gyda chytundebau a staff uwch, ac amddiffyn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, mewn pob math o feysydd o fewn cyfraith cyflogaeth. Mae hi hefyd wedi bod ynghlwm â gweithgorau yn creu polisïau Cymru Gyfan mewn ystod o feysydd. Mae hi wedi bod ynghlwm ag ymgynghoriadau â’r llywodraeth mewn meysydd o fewn cyfraith cyflogaeth trwy Gymdeithas Cyfreithwyr Cyflogaeth a Grŵp Mewnol y GCC.
Yn ei hamser rhydd, mae Clare yn mwynhau cerdded a mynd ar gaiac ar y môr. Mae hi hefyd yn chwarae’r obo a’r recorder, ac mae hi wrth ei bodd â Cherddoriaeth Gynnar.