Ymgymhwysodd Peter yn gyfreithiwr ym mis Ionawr 1996.
Enillodd Peter radd BA Anrhydedd mewn Economeg a Hanes o Brifysgol Caerdydd, cyn cwblhau’r Arholiad Proffesiynol Cyffredin ym Mhrifysgol Fetropolitan Llundain. Gwnaeth Arholiadau Terfynol Cymdeithas y Gyfraith ym Mhrifysgol Morgannwg.
Gweithiodd Peter ym myd gwasanaethau ariannol am nifer o flynyddoedd, cyn troi at fyd y Gyfraith. Cwblhaodd ei gontract hyfforddi yng nghwmni cyfreithwyr Rausa Mumford yng Nghaerdydd, Ymunodd Peter â Thîm Cyflogaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Ionawr 2016. Mae’n rhoi cyngor ar faterion cyfreithiol cynhennus a di-gynnen ar y cyd â chynrychioli cyflogwyr y GIG mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth.
Mae Peter hefyd yn hyfforddwr tîm pêl-droed iau yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn ddyfarnwr cymwysedig gyda Chymdeithas Pêl-droed De Cymru. Mae’n mwynhau teithio, gwrando ar gerddoriaeth a threulio amser gyda’i deulu a’i ffrindiau.