Mae Sammie yn Weithredol Gyfreithiol sy'n arbenigo mewn Cyfraith Cyflogaeth.
Ar ôl ennill ei gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, cychwynnodd Sammie ei gyrfa gyfreithiol yn Lyons Davidson, lle bu’n gweithio fel Paragyfreithiwr yn amddiffyn hawliadau damweiniau traffig ar y ffyrdd, cyn symud i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2015, fel Paragyfreithiwr yn yr adran Fasnachol a Chyflogaeth. Yn dilyn hynny, gweithiodd Sammie yn y tîm Cyflogaeth yn unig.
Cymhwysodd Sammie fel Gweithredol Gyfreithiol yn 2019 ac mae'n delio â phob agwedd ar gyfraith cyflogaeth a materion cysylltiadau gweithwyr.
Yn ei hamser hamdden, mae Sammie yn mwynhau ymarfer yoga, cadw'n heini a mynd allan am fwyd.