Neidio i'r prif gynnwy

Ruth Davies

Symudodd Ruth o orllewin Cymru i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn y lle cyntaf. Tra oedd yn y Brifysgol, roedd yn aelod o Gynllun Pro Bono Mencap, sy’n darparu gwybodaeth i unigolion anabl a’u teuluoedd er mwyn sicrhau bod modd iddynt ddod o hyd i’r gwasanaethau cyhoeddus priodol. Yn ystod ei hastudiaethau, datblygodd ddiddordeb mewn cyfraith fasnachol a meddygol, a hyn a barodd iddi ymgymryd â LLM oedd yn canolbwyntio ar y meysydd hyn.

Ar ôl cwblhau ei LLM, dechreuodd weithio fel paragyfreithiwr yng nghwmni NewLaw Solicitors yn ei adran esgeulustod meddygol. Ymunodd Ruth â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fel paragyfreithiwr, lle mae wedi gallu datblygu’i diddordeb a’i gwybodaeth ym maes cyfraith feddygol. Yn ei hamser hamdden mae’n hoff o ddarllen, nofio a theithio.