Dechreuodd Charlotte weithio yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Chwefror 2017, ar ôl llwyddo i gael Contract Hyfforddi yn dilyn proses gyfweld gystadleuol.
Mae gan Charlotte brofiad mewn gwaith cyfreithiol dadleuol a gwaith nad yw’n ddadleuol.
Yn ystod ei Chontract Hyfforddi, ymgymerodd â rolau yn y Tîm Rheoleiddio a Chaffael Masnachol, y Tîm Cyngor Cyffredinol a'r Tîm Esgeuluster Clinigol (yn ogystal â gwneud gwaith i'r Tîm Cyflogaeth a'r Tîm Eiddo Masnachol). Cafodd secondiad dros dro hefyd gyda Llywodraeth Cymru yn ystod ei Chontract Hyfforddi, lle bu'n cynghori Gweinidogion Cymru/swyddogion polisi ar ddeddfwriaeth a'u swyddogaethau o dan yr un ddeddfwriaeth, yn ogystal â helpu i ddrafftio deddfwriaeth.
Cymerodd Charlotte ddiddordeb arbennig yn y gwaith a wnaed gan y Tîm Rheoleiddio a Chaffael Masnachol yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg a sicrhaodd swydd barhaol yn y tîm ar ôl cwblhau ei Chontract Hyfforddi.
Mae Charlotte bellach yn arbenigo ym mhob agwedd ar gyfraith Gyhoeddus a Rheoleiddiol yn y Tîm Rheoleiddio a Chaffael Masnachol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cynghori cyrff iechyd Cymru ar eu pwerau a'u dyletswyddau o dan ddarnau amrywiol o ddeddfwriaeth. Mae gan Charlotte sgiliau ymchwil arbennig ac mae ganddi brofiad eang yn cynghori cleientiaid ar y gyfraith a pholisi ar ystod amrywiol o bynciau sy'n ymwneud â GIG Cymru.
Yn ogystal â gwneud gwaith cynghori nad yw'n ddadleuol, mae Charlotte yn parhau i ddelio ag ymgyfreitha sifil a masnachol.
Yn ei hamser hamdden, mae Charlotte yn mwynhau marchogaeth ceffylau, teithio, ac ar hyn o bryd mae'n dysgu Sbaeneg.