Neidio i'r prif gynnwy

Andrew Evans

Ymgymhwysodd Andrew yn gyfreithiwr ym 1991.

 

Enillodd radd BA (Anrhydedd) mewn Daearyddiaeth o Goleg y Frenhines Mair, Prifysgol Llundain. Cwblhaodd yr Arholiad Proffesiynol Cyffredin ym Mhrifysgol Morgannwg ac Arholiad Terfynol Cymdeithas y Gyfraith yng Ngholeg y Gyfraith, Caer. Mae ganddo radd Meistr mewn Rheoli’r Diwydiant Cerddoriaeth hefyd.

Ymunodd Andrew ym mis Mai 2017, ar ôl gweithio’n bennaf ym maes llywodraeth leol am y rhan fwyaf o’i yrfa. Mae hefyd wedi gweithio i Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn cwmni FTSE100 ac mewn ymarfer preifat. Mae ganddo brofiad o waith cyfreithiol cynhennus a digynnen. Mae wedi bod yn Uwch Gyfreithiwr Ymgyfreitha yng Nghyngor Dinas Bryste, ac mae wedi dal nifer o swyddi Uwch Gyfreithiwr yng Nghyngor Cernyw, LGSS Law (sef trefniant cydwasanaeth mwyaf y DU rhwng Cynghorau Swydd Caint a Northampton), Cyngor Dinas Birmingham, yr Olympic Park Legacy Company, Cyngor Milton Keynes a Chyngor Dinas Caerdydd.

Mae Andrew yn arbenigo mewn contractau yn y sector gyhoeddus, caffael yn yr UE, contractau masnachol cyffredinol, cyfraith cyflogaeth, y gyfraith ym maes eiddo deallusol, ymgyfreitha sifil ac ymgyfreitha masnachol.

Yn ei amser hamdden mae Andrew yn mwynhau mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw, chwarae ei gitarau niferus (a hynny’n wael, fel arfer), teithio a threulio amser â’i deulu a’i ffrindiau.