Neidio i'r prif gynnwy

Rhiannon Holtham

Cymhwysodd Rhiannon yn gyfreithiwr yn 2004. Roedd hi'n bartner yn Clarkslegal cyn symud i Capital Law yn 2016, ac yna ymunodd â PCGC ym mis Ionawr 2022.

 

Mae Rhiannon yn brofiadol wrth roi cyngor ar gyfraith caffael, rheolau cymorth/ cymhorthdal gwladwriaethol a chontractau masnachol. Mae hi wedi treulio’r rhan fwyaf o'i bywyd gwaith yn cynghori ar brosiectau arloesol sy'n cynnwys cydweithio â sefydliadau sy'n cydweithio o amrywiaeth o sectorau, yn defnyddio arian cyhoeddus yn gyffredinol ac yn aml gyda thema ynni. Mae'r rhain yn cynnwys mentrau datgarboneiddio gyda Chlwstwr Diwydiannol De Cymru a phrosiectau ynni o wastraff sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol sy'n cydweithio.

 

Mae Rhiannon wedi bod yn rhan o lawer o brosiectau diddorol, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cynllun disodli ERASMUS Llywodraeth Cymru a chynigion ar gyfer banc cymunedol, a phrentisiaethau a fframweithiau cyflogadwyedd ieuenctid arwyddocaol ledled Cymru. Treuliodd Rhiannon 18 mis ar secondiad yn Llywodraeth Cymru yn Gynghorydd Cyfreithiol Arbenigol i'r Cwnsler Cyffredinol, gan fod yn gyfreithiwr arweiniol ar gyfer y weinyddiaeth ddatganoledig a rôl sy'n cwmpasu cylch gwaith llawn Llywodraeth Cymru (yn debyg i Dwrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU).

 

Mae Rhiannon hefyd yn brofiadol wrth gynghori cyrff rheoleiddio, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg uwch, gan ddarparu cyngor strategol ar brosesau cystadleuol arwyddocaol. Mae hi wedi gweithio'n rhyngwladol, gan gyfrannu at bapur a gomisiynwyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol ar ddatblygu cyfraith caffael sy'n berthnasol i'r sector gofal iechyd ym Mrasil a Mecsico.

 

Mae Rhiannon hefyd wedi gweithio ar ran cleientiaid wrth amddiffyn heriau caffael a sefydliadau sy'n ceisio herio prosesau caffael.

 

Y tu allan i'r gwaith, mae dau blentyn a chi yn ei difyrru a'i chadw'n brysur . Fel arall, mae ymweliadau rheolaidd â'r pwll nofio a CrossFit yn ei chadw hi’n brysur