Neidio i'r prif gynnwy

Erin Kidd

Ymunodd Erin â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG ym mis Mehefin 2019. Bu Erin yn hyfforddi mewn practis preifat a chymhwysodd yn 2007 lle bu'n gweithio fel cyfreithiwr priodasol.


Cyn ymuno â PCGC, roedd Erin yn Uwch Gyfreithiwr Caffael yng Nghyngor Caerdydd. Mae Erin wedi gweithio yn y sector cyhoeddus ers tua 10 mlynedd, yn bennaf ar gyfer Cyngor Caerdydd, ond bu Erin hefyd yn gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr am tua 12 mis.


Yn ystod ei chyfnod yn y sector cyhoeddus, roedd Erin yn arbenigo mewn cyfraith caffael cyhoeddus ac mae ganddi brofiad o weithio ar brosiectau mawr a phob agwedd ar gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Erin oedd prif gyfreithiwr y tîm trafnidiaeth ar gyfer eu cyfarwyddiadau caffael a chontract.


Prif ffocws Erin yw cyfraith gaffael, ond mae ganddi brofiad o gynghori ar bob agwedd ar faterion contractio, llywodraethu, codi tâl a masnachu, cydweithio, cynghori pwyllgorau cyhoeddus a gofynion a rheoliadau cyfraith gyhoeddus cyffredinol.


Mae Erin yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu a theithio yn ei hamser hamdden. Mae Erin hefyd yn mwynhau ychydig o DIY er ei bod yn cyfaddef bod ei gwybodaeth a'i phrofiad yn y maes hwn yn waith ar droed.