Gweithiodd Juliette i Gyngor Sir Gorllewin Sussex am 30 mlynedd, fel paragyfreithiwr i ddechrau yn ymdrin â hawliau tramwy cyhoeddus a chyfraith priffyrdd a materion eiddo. Sicrhaodd gontract hyfforddi ar gyfer Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig gyda’r Cyngor a meithrin arbenigedd fel cynghorydd arweiniol ar faterion adeiladu digynnen a chontractau adeiladu’r Cyngor, gan ymestyn trwy bedwar awdurdod cyfraith gyhoeddus sy'n gweithio mewn partneriaeth. Bu hefyd yn cynghori ar gontractau cysylltiedig ag ynni, cyfraith caffael, llywodraethu a gwaith contract a masnachol cyffredinol.
Ym mis Awst 2019, symudodd Juliette i Gymru a dechreuodd swydd mewn practis preifat, gan roi cyngor i gleientiaid yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus ar draws ystod o drafodion masnachol ac eiddo.
Bellach, mae hi’n gweithio yn y Tîm Masnachol, gan roi cyngor ar gaffael cyhoeddus, adeiladu a gwaith contract a masnachol cyffredinol.
Mae Juliette yn gogydd brwd ac yn mwynhau garddio, cerdded a marchogaeth ceffylau.