Daeth Leanne yn Gyfreithiwr cymwys yn 2016.
Derbyniodd Leanne ei gradd yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd. Ar ôl cymryd blwyddyn allan, lle bu’n gweithio gyda phlant anabl mewn Gwersyll Gwyliau yn America, dechreuodd astudio ar gyfer y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe.
Dechreuodd Leanne ei gyrfa mewn cwmni preifat, lle gweithiodd ar hawliadau Anafiadau Personol yn bennaf. Yna, ymunodd â’r adran Gyfreithiol a Risg yn 2014, gan ddod â’i phrofiad o i’r tîm Anafiadau Personol, cyn sicrhau ei chytundeb hyfforddi yn 2015. Mae hi nawr yn gweithio yn y tîm Masnachol, Rheoleiddio a Chaffael.
Mae Leanne yn mwynhau mynd i redeg, ac mae hi wedi rhedeg sawl ras elusennol. Mae hi hefyd yn hoff iawn o bobi. Mae hi’n mwynhau treulio amser gyda’i ffrindiau a’i theulu pan fydd hynny’n bosibl.