Caiff pob swydd o fewn Gwasnaethau Cyfreithiol a Risg eu hysbysebu drwy wefan Swyddi’r GIG.
Os ydych yn ystyried gyrfa gyda Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg (neu’r GIG yng Nghymru) yna ewch i wefan Gyrfaoedd y GIG Cymru lle cewch chi wybodaeth fanwl am lwybrau gyrfaol yng Nghymru.
Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr ac i raddedigion sydd newydd raddio. Darganfyddwch mwy yma.
Uwch Gyfreithiwr Rheoleiddio. Dyddiad cau 20.02.25
Paragyfreithiwr Cwestau. Dyddiad cau 23.02.25
Cyfreithiwr Iau Cwest. Dyddiad cau 23.02.25
Uwch Gyfreithwyr Cwestau. Dyddiad cau 27.02.25
Cyfreithiwr Eiddo Masnachol. Dyddiad cau 02.03.25
Yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg, rydym yn cefnogi datblygiad ein staff i gyd, ni waeth ar ba gam maen nhw yn eu gyrfa gyfreithiol. Mae ein Pennaeth Hyfforddiant a Datblygiad Cyfreithiol sydd newydd ei benodi yn cymryd cyfrifoldeb strategol am ein cyfreithwyr dan hyfforddiant, staff paragyfreithiol a datblygiad proffesiynol parhaus ein cyfreithwyr cymwysedig. Rydym hefyd yn cynnig cynllun mentora personol a Grŵp Cymorth CILEx a gynhelir gan ein Gweithredwyr Cyfreithiol.
Isdeitlau Cymraeg ar gael trwy glicio ar y botwn CC.
Vanessa Llewellyn-Pennaeth Hyfforddiant a Datblygiad Cyfreithiol
Yn ogystal â rheoli llwyth achosion o esgeulustod clinigol o hawliadau cymhleth gwerth uchel, Vanessa yw Pennaeth Hyfforddiant a Datblygiad Cyfreithiol ar gyfer yr holl Wasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae hyn yn cynnwys rheolaeth strategol o’r hyfforddiant mewnol i staff cymwys a chyn-gymwys i sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol ac ymwybyddiaeth o faterion cyfreithiol cyfredol sy'n effeithio ar y cyngor a ddarparwn i'n cydweithwyr yn y GIG. Mae Vanessa hefyd yn cefnogi pob Rheolwr Tîm yn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg i ddarparu hyfforddiant pwrpasol i gleientiaid ar faterion cyfreithiol sy'n berthnasol i'r GIG.
Vanessa yw'r Pennaeth Hyfforddiant penodedig o dan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac mae'n cefnogi'r holl staff yn eu datblygiad gyrfa, o gyfreithwyr dan hyfforddiant i uwch gyfreithwyr. Mae Vanessa hefyd yn rheoli'r Cynllun Mentor, sy'n caniatáu i bob cydweithiwr geisio neu ddarparu cefnogaeth ar unrhyw faterion gan gynnwys amcanion personol a datblygiad gyrfa.