Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant yng Ngwobrau staff PCGC 2019

Cawsom ddiwrnod llwyddiannus iawn yng Ngwobrau Cydnabyddiaeth Staff PCGC eleni!

Llongyfarchiadau i’r timau a’r unigolion canlynol:

Wellbeing Initiative award 19Grŵp Ymgysylltu â Staff/Pwyllgor Cymdeithasol am ennill y wobr Menter Llesiant. Crëwyd cryn argraff ar y beirniaid gan y camau a gymerwyd gan y staff i fynd i’r afael â phwysigrwydd perthnasoedd cymdeithasol, adeiladu cymunedau yn y gwaith a thu hwnt a chefnogi llesiant gweithwyr gydag ymdeimlad o berthyn. Ymhlith y gwahanol ddigwyddiadau a drefnir gan y grŵp mae: cyfle i gymysgu dros ginio, clwb llyfrau, diod gymdeithasol ar nos Wener a nosweithiau cwis.

GMPI - Working Together

 

Yn agos ati yn y categori Gweithio Gyda’n Gilydd oedd y tîm Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol. Gwnaeth y Beirniaid sylwadau ar ymdrechion rhagorol y tîm adrannol i sicrhau trosglwyddiad esmwyth y Cynllun Atebolrwydd Presennol ar gyfer Indemniad Meddygon Teulu mewn amser byr. 

 

Daniela Leadership awards 19Enillodd Daniela Mahapatra y wobr Arweinyddiaeth. A hithau newydd gael ei phenodi fel Arweinydd y Tîm Cyflogaeth, canmolwyd Daniela am ei hanogaeth a'i chefnogaeth gan arwain at dwf y Tîm. Cyfeiriwyd at ei chefnogaeth nid yn unig i'w Thîm ond i'r Byrddau Iechyd, a'i gwaith gyda'r Healthcare People Management Association. Derbyniwyd tystlythyrau gan nifer o bobl y mae'n gweithio gyda nhw i gefnogi ei henwebiad. 

Employment - Team of the Year 19

 

Enillodd ein Tîm Cyflogaeth y wobr ‘Tîm y Flwyddyn’. Gwnaeth gwaith parhaus y Tîm Cyflogaeth a'u hymrwymiad i'r gwerthoedd corfforaethol, a'u hymgorfforiad o'r gwerthoedd hynny argraff ar y beirniaid. Soniwyd hefyd am y gwasanaeth gwerth am arian rhagorol a ddarperir ganddynt, fel y gwelwyd yn y cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar eu gwasanaethau.

 

Llongyfarchiadau i’r holl rai gafodd enwebiad ac i’r enillwyr ar y dydd!