Noder bod GIG Cymru ac NHS England yn gyrff dyfarnu gwahanol a chanddynt eu meini prawf asesu eu hunain. Fel myfyriwr GIG Cymru, dim ond rheolau ad-dalu GIG Cymru y byddwch yn cadw atynt.
Noder nad yw’r adran hon ond yn berthnasol i fyfyrwyr a chanddynt rif Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr sy’n astudio Meddygaeth neu Ddeintyddiaeth. Ar gyfer yr holl gyrsiau eraill, gwnewch ymholiadau drwy eich prifysgol.